Gweithredu mesurau gwarchodaeth ataliol i dreftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu mesurau gwarchodaeth ataliol i dreftadaeth ddiwylliannol. Mae gwarchodaeth ataliol yn atal dirywiad neu ddifrod i dreftadaeth ddiwylliannol mewn sefyllfaoedd dydd i ddydd ac mewn trychinebau neu argyfyngau. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol.
Mae'n ymwneud ag asesu addasrwydd amgylchedd, defnydd a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol, cytuno ar newidiadau a gwneud addasiadau os oes angen, rhoi mesurau wrth gefn i ddelio â thrychinebau ac argyfyngau a chadw cofnodion.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gweithredu mesurau gwarchodaeth ataliol i dreftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro ac asesu addasrwydd yr amgylchedd cyfredol ar gyfer y dreftadaeth ddiwylliannol yn rheolaidd
- adnabod unrhyw fygythiadau posibl i warchodaeth treftadaeth ddiwylliannol trwy eu harddangos, eu defnyddio neu eu storio
- argymell a chytuno ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r amgylchedd, arfer neu warchod treftadaeth ddiwylliannol gyda'r bobl briodol
- addasu'r agweddau amgylcheddol ac amddiffyn perthnasol er mwyn gwarchod treftadaeth ddiwylliannol
- adolygu'r bygythiadau posibl o drychinebau ac argyfyngau a diweddaru'r cynlluniau pan fo argyfwng yn rheolaidd
- sicrhau bod mesurau ar waith a fyddai'n amddiffyn neu'n rhybuddio rhag trychinebau posibl
- llunio cofnodion manwl gywir ac eglur am y camau gweithredu ar systemau gwybodaeth sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- effaith yr agweddau amgylcheddol gan gynnwys lleithder, tymheredd a phlâu ar y dreftadaeth ddiwylliannol
- y cyd-destun proffesiynol a sefydliadol rydych yn gweithio ynddo
- manylion y polisïau, yr arferion, y safonau a'r cynlluniau pan fo argyfwng sy'n berthnasol i'r mesurau gwarchodaeth ataliol
- nodweddion naturiol a chemegol deunyddiau, achosion a nodweddion dirywiad mewn treftadaeth ac effeithiau mesurau ataliol ar gyflwr a defnydd hirdymor y dreftadaeth
- sut i weithredu amodau amgylcheddol priodol a sut i fonitro a rheoli'r amodau hyn
- sut i adnabod arwyddion o ddirywiad i'r dreftadaeth ddiwylliannol sydd yn eich gofal y gellir eu hosgoi drwy fesurau ataliol, a sut i'w monitro a'u rheoli
- yr ystod briodol o ddulliau gwarchodaeth ataliol a'r deunyddiau ar gyfer defnydd arferol a brys
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi eich gweithrediadau, y math o system ddogfennu a ddefnyddir, sut i'w gweithredu, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl gyda nhw
cyfyngiadau'r arfer safonol a phryd bydd angen cyngor pellach
pwy ddylid ymgynghori gyda nhw os oes angen cyflawni gweithrediadau pellach sydd y tu hwnt i'ch gwybodaeth, dealltwriaeth a'ch profiad chi