Gweithredu mesurau gwarchodaeth ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol

URN: CCSCH12
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu mesurau ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol.  Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol neu eu cyfansoddion. Gallai'r mesurau gwarchodaeth fod yn rhai ataliol, yn rai sy'n seiliedig ar driniaeth, yn rheolaethol neu'n addysgol neu'n gyfuniad o'r rhain. 

Mae'n ymwneud ag adnabod gofynion gwarchodaeth, defnyddio technegau a datrysiadau gwarchodaeth, sicrhau bod adnoddau, sgiliau a'r cyfarpar ar gael, cydweithio gyda phobl eraill, monitro a gwerthuso mesurau gwarchodaeth, cynnal cofnodion a chyfathrebu arfer da.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros weithredu dulliau gwarchodaeth ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio ffynonellau priodol i adnabod y gofynion ar gyfer gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn barhaus ynghyd â thechnegau newydd a datblygol a'u goblygiadau ymarferol
  2. cyflawni datrysiadau a thechnegau gwarchodaeth priodol sy'n seiliedig ar nodweddion naturiol a chemegol deunyddiau ac achosion o ddirywiad
  3. sicrhau bod yr adnoddau, y sgiliau a'r cyfarpar priodol ar gael i gyflawni mesurau gwarchodaeth
  4. gweithredu mesurau rheoli ataliol neu warchodaeth sy'n seiliedig ar driniaeth ac sy'n bodloni'r ystyriaethau moesegol ac sy'n unol â'r safonau gwarchodaeth cydnabyddedig
  5. gweithredu mesurau gwarchodaeth sydd o fewn ffiniau eich arbenigedd a'ch profiad
  6. cydweithio gyda phobl eraill i sicrhau bod y mesurau gwarchodaeth yn effeithiol, gan geisio cymorth gan arbenigwyr perthnasol pan fo'n briodol
  7. penderfynu ar y ffyrdd priodol o gasglu, dehongli a chyflwyno data i fonitro a gwerthuso effaith y mesurau gwarchodaeth
  8. argymell ffynonellau priodol o ddadansoddiad, triniaeth neu ofal ataliol pellach i'r bobl briodol
  9. cynnal a rheoli cofnodion o fesurau gwarchodaeth sydd ar ffurf, lefel o fanylder ac eglurder sy'n briodol i'w defnydd arfaethedig, gan sicrhau eu bod yn ddigon parhaol 
  10. argymell a rhannu arfer priodol ynghlwm â gofalu am, amddiffyn a thrin treftadaeth ddiwylliannol i eraill yn y modd ac ar y ffurf briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y safonau, fframweithiau, cyfryngau cyfreithiol, moeseg a pholisïau cenedlaethol, lleol, proffesiynol neu sefydliadol sy'n effeithio ar warchod treftadaeth ddiwylliannol yn eich maes gweithgaredd
  2. sut i adnabod goblygiadau gwarchod eich polisïau neu gynlluniau gweithredu ar gyfer y dreftadaeth ddiwylliannol rydych yn gweithio gydag o
  3. safbwyntiau a rolau pobl eraill sy'n cael effaith ar y gwaith gwarchod a gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol a sut i gyfathrebu gyda nhw
  4. graddau eich arbenigedd gwarchodaeth a phryd a lle i geisio cyngor gan arbenigwyr eraill
  5. nodweddion naturiol a chemegol deunyddiau, achosion a nodweddion dirywiad ac effeithiau triniaeth a mesurau ataliol ar gyflwr a defnydd hirdymor y dreftadaeth ddiwylliannol
  6. sut i gyflawni triniaethau gwarchodaeth, a gwybod pa driniaethau y dylid eu defnyddio, er mwyn sicrhau eich bod yn gwarchod y dreftadaeth ddiwylliannol 
  7. sut i ymateb i sefyllfaoedd newidiol ac argyfyngau sy'n ymwneud â'r dreftadaeth ddiwylliannol
  8. cyd-destun a tharddiad y dreftadaeth ddiwylliannol, ei arwyddocâd crefyddol, diwylliannol neu hanesyddol ac effaith y mesurau gwarchodaeth
  9. pwysigrwydd ac arwyddocâd cofnodion gwarchodaeth a sut i'w llunio, eu rheoli a'u cynnal
  10. y mathau o systemau dogfennu a ddefnyddir, sut i'w gweithredu, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl gyda nhw
  11. sut i ddatblygu, diffinio a chyflwyno cyngor gwarchodaeth ac argymhellion ymarfer

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH75

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

gwarchodaeth; treftadaeth ddiwylliannol; mesurau ataliol; camau unioni; mesurau gwarchodaeth; triniaeth; mesur rheolaethol; addysg; arteffact; adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth;