Cyflawni gwaith gwarchod sylfaenol i dreftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflawni gwaith gwarchod sylfaenol i dreftadaeth ddiwylliannol. Gallai hyn fod yn berthnasol i sefyllfaoedd o ddydd i ddydd a sefyllfaoedd brys. Gallai hyn fod ar ffurf cael gwared ar ychwanegiadau neu asiantau gweithredol sy'n achosi dirywiadau, trin staeniau ac ati. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol
Mae'n ymwneud ag adnabod anghenion glanhau, cael gwared ar, lleihau neu niwtraleiddio deunyddiau diangen, gwneud gwaith atgyweirio sylfaenol, adnabod gweithrediadau i leihau dirywiad pellach a chadw cofnodion o driniaethau.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros gyflawni gwaith gwarchod sylfaenol i dreftadaeth ddiwylliannol o dan gyfarwyddyd gwarchodwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r dreftadaeth ddiwylliannol yn rheolaidd er mwyn adnabod deunydd sy'n rhwystro defnydd neu ddehongliad neu sydd â'r potensial i achosi dirywiad
- egluro eich canfyddiadau a'ch dulliau i'w datrys gyda'r bobl briodol
- cael gwared ar, lleihau neu niwtraleiddio asiantau potensial a gweithredol o ddirywiad mewn ffyrdd sydd ddim yn achosi difrod i'r dreftadaeth ddiwylliannol
- cael gwared ar neu leihau deunydd sy'n rhwystro defnydd neu ddehongliad mewn ffyrdd sydd ddim yn achosi difrod i'r dreftadaeth ddiwylliannol
- trwsio neu gryfhau gwrthrychau neu gyfansoddion sydd wedi'u difrodi o fewn cylch gwaith eich hyfforddiant ac arbenigedd a safonau proffesiynol y diwydiant
- hysbysu'r bobl briodol am eich gweithrediadau a'r angen am unrhyw arbenigwyr cymwys pan fo gofynion y tu hwnt i'ch hyfforddiant a'ch arbenigedd chi
- adnabod y gofynion a'r paramedrau amgylcheddol hanfodol sy'n berthnasol i'r dreftadaeth ddiwylliannol rydych yn gweithio gydag o
- adnabod y camau gweithredu gofynnol i leihau dirywiad pellach, gan roi gwybod i'r bobl berthnasol
- asesu'r agen am fesurau ataliol neu amddiffynnol parhaus yn rheolaidd
- llunio cofnodion cywir ac eglur am driniaethau ar systemau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- safonau proffesiynol y diwydiant a pholisïau ac arfer eich sefydliad sy'n ymwneud â gwarchodaeth a thriniaeth
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adfer ac amddiffyn gwrthrychau pan fo tân, llifogydd neu argyfwng arall
- yr ystod o asiantau gweithredol sy'n achosi dirywiad a sut i gael gwared arnyn nhw, eu lleihau neu eu niwtraleiddio
- ystod y gwaith gwarchod arferol a'r triniaethau brys sy'n berthnasol i'r dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n gweithio gyda nhw a sut i'w cyflawni
- pam ei bod hi'n bwysig i wirio'r dulliau glanhau ar gyfer effeithiolrwydd cyn eu gweithredu a sut i wneud hynny
- sut i adnabod yr angen am fesurau ataliol ac amddiffyn ar ôl eu trin
- y defnydd o strategaethau i atal dirywiad pellach i wrthrychau sydd wedi'u hadfer gan gynnwys cymorth ac amddiffyn
- sut i fanteisio ar a defnyddio gweithdrefnau cofnodi eich sefydliad
- yr amodau amgylcheddol priodol ar gyfer y dreftadaeth ddiwylliannol rydych yn gweithio gyda nhw
- y dyfarniadau a'r foeseg gwarchodaeth sy'n briodol i'ch rôl
- sut i adnabod arwyddion o ddifrod a dirywiad
- pwy ddylid rhoi gwybod iddyn nhw a phryd ddylech chi wneud hynny
- cyfyngiadau eich hyfforddiant a'ch arbenigedd a phryd fyddai angen cyngor pellach