Trin a chyflawni gwaith glanhau rheolaidd i dreftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thrin a chyflawni gwaith glanhau rheolaidd i dreftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol neu eu cyfansoddion. Gallai hefyd gyfeirio at addurniadau hanesyddol mewnol megis papur wal, arwynebau wedi'u peintio, lleoedd tân ac ati.
Gallai gyfeirio at bacio neu osod deunydd amddiffyn a'i ddadbacio neu gael gwared ohono, dewis a gwirio dulliau glanhau, cyflawni gwaith glanhau rheolaidd, labelu gwrthrychau neu gyfansoddion, a chofnodi gweithrediadau gan baratoi lleoliadau'n barod ar gyfer gwrthrychau neu gyfansoddion, a'u gosod yno.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros waith glanhau rheolaidd i dreftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bwrw golwg ar gofnodion blaenorol er mwyn adnabod anghenion glanhau rheolaidd y dreftadaeth ddiwylliannol
- sicrhau y caiff gwrthrychau eu pacio, eu hamddiffyn a'u diogelu'n briodol pan fyddwch chi'n eu symud
- dewis dulliau a deunyddiau sy'n briodol i'r gwrthrych a'r gwaith gaiff ei gyflawni
- gwirio'r dulliau glanhau o ran effeithiolrwydd cyn eu gweithredu
- ymdrin â threftadaeth ddiwylliannol yn unol â'r gweithdrefnau trin gan beidio â chyfaddawdu eu huniondeb
- cyflawni gwaith glanhau rheolaidd i dreftadaeth ddiwylliannol yn unol â'r gweithdrefnau gofal a'r gofynion iechyd a diogelwch
- sicrhau addasrwydd yr amgylchedd ar gyfer y dreftadaeth ddiwylliannol yn ystod y gwaith trin a glanhau
- paratoi lleoliadau i foddhau'r dreftadaeth ddiwylliannol yn unol â'r polisïau gofal
- dadbacio a gosod treftadaeth ddiwylliannol mewn lleoliadau newydd, eu gwirio am arwyddion o ddifrod a dirywiad
- labelu treftadaeth ddiwylliannol er dibenion curadurol gan ddefnyddio'r dulliau a'r deunyddiau priodol
- llunio cofnodion cywir ac eglur o weithrediadau yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol, gan ystyried y goblygiadau ar gyfer gofal yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i lanhau'r dreftadaeth ddiwylliannol
- polisïau, arfer a safonau eich sefydliad
- yr egwyddorion a'r agweddau gwarchodaeth perthnasol sy'n debygol o achosi difrod neu ddirywiad
- y dyfarniad a'r foeseg gwarchodaeth priodol
- yr amodau amgylcheddol priodol ar gyfer y dreftadaeth ddiwylliannol sydd yn eich gofal
- yr ystod safonol o ddulliau a deunyddiau ar gyfer glanhau, trin, pacio, labelu, amddiffyn a diogelu
- y risgiau i gasgliadau a, sut i adnabod arwyddion o ddifrod a dirywiad a'r mesurau ataliol i leddfu difrod
- pryd mae angen cymorth ar wrthrych a sut mae darparu hynny
- cyfyngiadau arfer safonol a phryd bydd angen cyngor pellach
- y deunyddiau angenrheidiol i amddiffyn yr eitem
- y systemau cadw cofnodion sefydliadol a sut i fanteisio arnyn nhw a'u defnyddio nhw gan gynnwys y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl ynghlwm â nhw