Llunio a gweithredu strategaethau ar gyfer defnyddio a datblygu casgliadau ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio a gweithredu strategaethau ar gyfer defnyddio a datblygu casgliadau treftadaeth ddiwylliannol. Gallai'r casgliadau gynnwys gwrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu rannau o adeilad neu safle hanesyddol sydd yn y fan a'r lle.
Mae'n ymwneud ag adnabod ac adolygu cwmpas defnydd a datblygiad y casgliad yn ogystal ag adolygu'r polisïau, y gweithdrefnau a'r meini prawf ar gyfer caffael, gwaredu a benthyca.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer curaduron, y rheiny sy'n gweithio yn y maes gwarchodaeth neu unrhyw un arall sy'n gyfrifol am strategaeth casgliadau ar ran casgliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ystyried yr holl wybodaeth berthnasol wrth ddatblygu ac adolygu strategaethau casgliadau
- sicrhau bod y strategaethau'n ategu diben, gweledigaeth ac amcanion y casgliadau a'r sefydliad
- asesu effaith defnydd presennol ac yn y dyfodol o'r casgliadau eu hunain a'r sefydliadau eill dau
- asesu'r risgiau a'r buddion ynghlwm â chaffaeliadau newydd, gwarediadau a gweithgarwch benthyca ar y sefydliad yn barhaus
- asesu effaith y datblygiadau sefydliadol a goblygiadau'r adnoddau ar y casgliadau presennol ac yn y dyfodol
- adnabod y gofynion o ran adnoddau ar gyfer gweithredu polisïau caffael, benthyca neu waredu
- pennu gweithdrefnau ar gyfer monitro ac adolygu polisïau caffael, gwaredu a benthyca yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
- pennu'r opsiynau, y blaenoriaethau a'r meini prawf ar gyfer caffael a gwaredu yn unol â'r polisïau sefydliadol a'r adnoddau sydd ar gael
- pennu'r meini prawf ar gyfer benthyca gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol yn unol â pholisïau benthyca'r sefydliad
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn asesu effeithiolrwydd y meini prawf cyfredol ar gyfer caffaeliadau, gwarediadau a benthyciadau yn rheolaidd
- rhannu gwybodaeth ac arweiniad ar gaffaeliadau, gwarediadau a benthyciadau gyda'r bobl berthnasol
- pennu'r safonau gofal ar gyfer gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol y mae sefydliadau yn eu benthyca
- cofnodi'r wybodaeth berthnasol ynghylch strategaethau, polisïau a meini prawf o ran casgliadau ar system sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
polisïau, gweithdrefnau a meini prawf caffael a gwaredu'r sefydliad, gan gynnwys unrhyw bartneriaethau sefydliadol hirdymor
diben, gweledigaeth ac amcanion y casgliadau yn eich gofal, y meini prawf er mwyn pennu eu cryfderau a'u gwendidau a'r berthynas rhyngddyn nhw, y gofynion sefydliadol a'r polisïau perthnasol
- yr wybodaeth berthnasol sydd angen ei hystyried wrth ddatblygu ac adolygu strategaethau casgliadau gan gynnwys effeithiolrwydd strategaethau blaenorol, cwmpas, arwyddocâd, cryfderau a gwendidau'r casgliadau presennol a barnau eich cydweithwyr
- sut i gaffael gwybodaeth am ofynion yswiriant ac ystyriaethau diogelwch y casgliad a'r goblygiadau o ran adnoddau a datblygiadau newydd sydd wedi effeithio ar, neu a allai effeithio ar y sefydliad
- sut i ddysgu am bolisïau ac arferion caffael, gwaredu a benthyca sefydliadau eraill tebyg
- sut mae caffaeliadau a gwarediadau'n cyfrannu tuag at gynnal a chadw casgliadau a'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer ehangu casgliadau
- effeithiau blaenorol a thebygol unrhyw gaffaeliadau neu warediadau ar y sefydliad, adnoddau mae'n debyg fydd eu hangen a chanlyniadau'r gwahanol fathau o gaffaeliadau
- yr ystyriaethau moesegol sy'n berthnasol i gaffaeliadau a gwarediadau gan gynnwys y mathau o gaffaeliadau a gwarediadau y gellir eu hystyried yn anfoesol a'r rheswm dros hynny
- y ffynonellau gwybodaeth ar gaffaeliadau a gwarediadau dichonol, sut i gynhyrchu adnoddau ar eu cyfer, pwy dylid eu hysbysu am gaffaeliadau neu warediadau dichonol a pham ei fod hi'n bwysig sicrhau fod gennych chi gynllun ar gyfer caffaeliadau a gwarediadau
- effaith benthyca ar y sefydliad a'r adnoddau gaiff eu defnyddio ar gyfer benthyca
- sut i bennu safonau gofal ar gyfer eitemau sydd wedi'u benthyca
polisi, gweithdrefnau a meini prawf benthyca'r sefydliad, pam fod polisi a meini prawf benthyca yn bwysig ar gyfer benthyciadau mewnol ac allanol, y gwahanol weithdrefnau ar gyfer benthyciadau sydd er dibenion ymchwil yn hytrach nac i'w harddangos, gwahanol gategorïau'r benthycwyr a sut mae modd sicrhau bod y polisi'n effeithiol yn ymarferol
sut i werthuso effeithiolrwydd y polisïau, y gweithdrefnau a'r meini prawf
- sianelau cyfathrebu'r sefydliad a phwy fyddai angen ichi gyfathrebu gyda nhw
- y mathau o systemau gwybodaeth sefydliadol sydd ar waith, sut i'w defnyddio, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur, problemau posibl gyda nhw a sut i'w defnyddio i gofnodi gwybodaeth am strategaethau, polisïau a meini prawf casgliadau