Cyflawni gwaith cynnal a chadw ar offer rigio a chodi

URN: CCSAU27
Sectorau Busnes (Suites): Digwyddiadau Byw,Theatr Dechnegol a Pherfformiadau Byw (Awtomateiddio)
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Ebr 2011

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datrys problemau rheng flaen ar systemau awtomateiddio. Mae’n ymwneud â chyflawni gweithgareddau cynnal a chadw cynlluniedig ar offer rigio a chodi, yn unol â’r gweithdrefnau cymeradwy, y gofynion iechyd a diogelwch a’r Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER). Bydd gofyn ichi gynnal a chadw ystod o offer rigio/codi megis craeniau, winshis, cyfarpar codi trydanol, dyfeisiau codi, rhaffau ffibr a gwifren, offer tynnu ac offer rigio, gan gynnwys blociau, dolennau a sgriwiau potel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dilyn y rhaglenni cynnal a chadw perthnasol er mwyn cyflawni’r gwaith priodol
  2. cyflawni’r gweithgareddau cynnal a chadw rydych chi wedi eich awdurdodi i’w cyflawni
  3. cyflawni’r gweithgareddau cynnal a chadw yn y drefn benodol ac ymhen yr amser y cytunwyd arno
  4. adrodd am unrhyw achosion lle na ellir bodloni’r gweithgareddau cynnal a chadw’n gyfan gwbl neu lle mae diffygion wedi’u nodi y tu hwnt i’r amserlen a gynlluniwyd
  5. cwblhau cofnodion cynnal a chadw perthnasol yn gywir a’u rhannu gyda’r unigolyn priodol
  6. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn unol â’r arferion gweithio diogel a’r gweithdrefnau cymeradwy

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion iechyd a diogelwch yr ardal lle bydd gofyn ichi gyflawni’r gweithgarwch cynnal a chadw, a’r cyfrifoldeb arnoch chi ynghlwm â hynny
  2. dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Cymeradwy (ACOP) ynghylch defnyddio offer codi yn ddiogel, a’r Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER)
  3. y gweithdrefnau awdurdodi cynnal a chadw sy’n berthnasol i gynnal a chadw’r offer rigio a chodi
  4. y rhagofalon iechyd a diogelwch penodol dylid eu rhoi ar waith yn ystod y gweithgareddau cynnal a chadw, a’u heffaith ar bobl eraill
  5. y peryglon sy’n gysylltiedig â chyflawni gweithgareddau cynnal a chadw ar offer rigio a chodi a sut mae modd eu lleihau
  6. pwysigrwydd gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) yn ystod y broses cynnal a chadw
  7. sut i gaffael a dehongli manylebau, llawlyfrau gwneuthurwyr a dogfennau angenrheidiol eraill yn ystod y broses cynnal a chadw
  8. y weithdrefn ar gyfer caffael rhannau newydd, deunyddiau a nwyddau traul eraill sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith cynnal a chadw
  9. polisi’r cwmni ynghylch atgyweirio / gosod cydrannau newydd yn ystod y broses cynnal a chadw
  10. y gofynion penodol ar gyfer cynnal a chadw offer rigio a chodi, a’r dulliau cynnal a chadw a ddefnyddir
  11. yr ystod ac agweddau o’r offer codi sydd angen eu cynnal a’u cadw
  12. yr offer / ategolion rigio / codi sydd angen eu harchwilio a’u cynnal a’u cadw
  13. y dulliau o wirio bod y cydrannau yn addas i'r pwrpas, a sut i nodi diffygion a nodweddion o dreulio
  14. yr egwyddorion sylfaenol o ran sut mae’r offer yn gweithio, diben gweithio unedau / cydrannau unigol a sut maen nhw’n rhyngweithio
  15. y gweithdrefnau a’r mesurau atal caiff eu gweithredu er mwyn lleihau methiant offer a lleihau’r risg o unrhyw ddamweiniau
  16. sut i gofnodi gwaith cynnal a chadw offer rigio a chodi, a sut i gwblhau’r dogfennau priodol
  17. sut i drin a storio offer rigio a chodi’n gywir, a sut i gyflawni gwaith cynnal a chadw gofalu a rheoli yn ystod storio
  18. y problemau sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw’r offer rigio a chodi, a sut mae modd eu goresgyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ebr 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAU27

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Peirianneg, Crefftau Trydanol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Theatr Dechnegol; Digwyddiadau Byw; Perfformiadau Byw; Arddangosfeydd; Awtomateiddio; Systemau Awtomateiddio; Arddangosfeydd;