Adnabod cyfleoedd cyllid a nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod cyfleoedd i gael cyllid neu nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau. 

Bydd gofyn i chi ymgymryd ag ymchwil a gwerthuso ffynonellau incwm posibl a chyflwyno'r wybodaeth hon i bobl berthnasol yn eich sefydliad. Mae sgiliau cyfathrebu a rhifedd da yn hanfodol ar gyfer y safon hon. Bydd gofyn i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau cyfredol a bod yn rhagweithiol wrth geisio cyfleoedd i gael cyllid.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig ag adnabod cyfleoedd i gael cyllid neu nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      ffurfio a chynnal perthnasau da gyda chyrff cyllido neu nawdd posibl

2      ymchwilio i ffynonellau cyllid neu ffrydiau incwm posibl gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy

3      cysylltu â sefydliadau cyllido neu nawdd mewn ffyrdd priodol i egluro unrhyw wybodaeth goll neu amwys am gyfleoedd

4      adnabod y posibiliadau i gael cyllid neu nawdd sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad

5      gwerthuso ffynonellau incwm neu ffrydiau incwm posibl yn erbyn amcanion, gofynion a chyfyngiadau sefydliadol

6      cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas â ffynonellau cyllid neu nawdd posibl i gydweithwyr priodol

7      cynnal cofnodion ynghylch cyfleoedd i gael cyllid neu nawdd presennol neu yn y dyfodol yn unol â gofynion sefydliadol 



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      polisi a thueddiadau cyfredol mewn perthynas â chyfleoedd i gael cyllid neu nawdd ac arfer

2      materion lleol a chenedlaethol a allai effeithio ar gyfleoedd i gael cyllid neu nawdd

3      sianeli cyfathrebu rhwng eich sefydliad chi a sefydliadau cyllido neu nawdd

4      sut i gysylltu â sefydliadau cyllido neu nawdd am fwy o wybodaeth

5      y mathau o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau byw sy'n debygol o ddenu cyllid neu nawdd

6      ffynonellau cyllid neu incwm posibl yn y sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, preifat, y loteri, sefydliadau ymddiriedolaethol

7      pryd mae'n briodol awgrymu cyfleoedd i gyrff cyllido neu nawdd ynghylch meysydd gwaith newydd

8      amcanion, gofynion a chyfyngiadau sefydliadol ar gyfer pennu cymhwysedd incwm neu gyllid posibl

9      sut i ddehongli meini prawf cyllid neu nawdd a'u perthnasedd i'ch sefydliad

10   sut i ddehongli ffigurau’n ymwneud â phosibiliadau cyllid neu incwm

11   gyda phwy i drafod a chytuno cyfleoedd cyllid neu nawdd a gweithgareddau gwaith

12   sut i gyfathrebu gwybodaeth am eich canfyddiadau a'ch gweithgareddau gwaith gyda'ch cydweithwyr

13   gofynion cadw cofnodion y sefydliad rydych yn gweithio gydag ef

14   pam mae'n bwysig sefydlu perthnasau gwaith da a chadw enw da   


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE9

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cyllid; Nawdd; Incwm