Rheoli disgwyliadau'r gwahanol bobl sy'n gysylltiedig â phrosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli disgwyliadau unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â phrosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Gallai hyn fod yn ystod gwaith creu neu gyflwyno.Mae llawer o ddisgwyliadau i'w rheoli am y gallai fod gan bawb wahanol safbwynt ynghylch beth yw'r gwaith a beth yw ei ddiben.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â rheoli disgwyliadau gwahanol grwpiau wrth ddatblygu neu gyflwyno prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 adnabod anghenion a disgwyliadau unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
2 cyfathrebu mewn modd cynhwysol ac effeithiol i bob unigolyn, grŵp a rhanddeiliad ar adegau priodol
3 cyd-drafod a rheoli disgwyliadau unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid sy'n realistig ac yn gyflawnadwy
4 adnabod a mynd i'r afael â materion a allai achosi problemau neu wrthdaro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5 tynnu materion na allwch fynd i'r afael â nhw at sylw pobl briodol yn ddi-oed
6 rheoli'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni celfyddydau er mwyn bodloni anghenion pobl gysylltiedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy ynghylch anghenion a disgwyliadau pobl gysylltiedig
2 pwysigrwydd cyflwyno'ch sgiliau artistig, hwyluso a chynhwysiant cymdeithasol i'r unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid
3 sut i ysbrydoli unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid am gynllun, gwerthoedd, proses a deilliannau posibl eich prosiect neu'ch digwyddiad
4 pwysigrwydd cyd-drafod deilliannau realistig
5 materion a allai achosi problemau neu wrthdaro a sut i'w hadnabod
6 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o'ch sgiliau fel y gallwch gynnig ymdeimlad cywir o'ch capasiti i gyflawni
1 sut i reoli gwaith datblygu a chyflwyno gan gynnwys cyllidebau, materion cytundebol a chyfreithiol a hawlfraint