Cefnogi prosiectau cydweithredol a digwyddiadau byw ar draws ffurfiau celfyddydol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu cymorth i'r rheiny sy'n ymgymryd â phrosiectau cydweithredol neu ddigwyddiadau byw ar draws ffurfiau celfyddydol. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae'n golygu deall y gwahanol feysydd yn y celfyddydau a sut maen nhw'n rhyngweithio â'i gilydd. Bydd angen sgiliau TG da arnoch chi i ymgymryd ag ymchwil a chynnal cronfa ddata o ymarferwyr rhanbarthol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol arnoch chi hefyd i gysylltu ag ymarferwyr a chydweithwyr. Mae dealltwriaeth dda o anghenion a diddordebau cymunedol hefyd yn hanfodol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â darparu cymorth i'r rheiny sy'n ymgymryd â phrosiectau cydweithredol neu ddigwyddiadau byw ar draws ffurfiau celfyddydol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 ymchwilio i wybodaeth sy'n ofynnol i greu prosiectau gan ddefnyddio arfer ar draws ffurfiau celfyddydol
2 cynnal cronfeydd data o ymarferwyr / sefydliadau rhanbarthol sy'n bodloni gofynion prosiect
3 cofnodi gwybodaeth briodol i fonitro cyfranogiad cymunedau anodd eu cyrraedd mewn prosiectau ar draws ffurfiau celfyddydol
4 cyfathrebu gydag ymarferwyr perthnasol a gontractiwyd a chydweithwyr er mwyn bodloni gofynion prosiect
5 cyfranogi mewn gweithgareddau gyda phartneriaid perthnasol ar adegau priodol
6 darparu gwybodaeth sy'n berthnasol i fonitro a gwerthuso prosiectau ar draws ffurfiau celfyddydol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 sut i ymchwilio i wahanol feysydd o fewn sectorau'r celfyddydau a sut maen nhw'n rhyngweithio â’i gilydd
2 pa ymarferwyr / sefydliadau ar draws ffurfiau celfyddydol sy'n bodoli yn y rhanbarth
3 sut mae gwahanol ffurfiau ar draws ffurfiau celfyddydau yn gallu bod yn effeithiol mewn lleoliadau cymunedol penodol
4 sut mae gwahanol ffurfiau ar draws ffurfiau celfyddydau yn gallu bod yn effeithiol wrth ymgysylltu â chymunedau anodd eu cyrraedd
5 yr hyn sy'n gysylltiedig â sefydlu gwaith cydweithredol ar draws ffurfiau celfyddydol sy'n cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol
6 anghenion a diddordebau cymunedau
7 sut i gynnal cronfeydd data o ymarferwyr neu sefydliadau rhanbarthol
8 y gwahaniaethau rhwng sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn perthynas â phrosiectau cydweithredol ar draws ffurfiau celfyddydol
9 ffurfiau celfyddydol perthnasol a fydd yn denu’r cymunedau rydych yn gweithio gyda nhw