Cydlynu prosiectau a digwyddiadau byw aml-bartner
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydlynu prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw gyda phartneriaid niferus. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae'n golygu cynorthwyo gyda chysylltiadau partneriaethau, ymchwilio i ddarpariaeth sy'n bodoli eisoes, cyfrannu at gylchoedd gorchwyl, contractio artistiaid ac archebu offer a choladu a storio'r wybodaeth sydd ei hangen i fonitro a gwerthuso gweithgarwch. Mae sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol yn hanfodol yn ogystal â hunan gymhelliant.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chydlynu prosiectau celfyddydau cymunedol neu ddigwyddiadau byw aml-bartner.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 ymchwilio i wybodaeth o ffynonellau dibynadwy am y ddarpariaeth leol sy'n bodoli eisoes
2 cyflwyno gwybodaeth a gasglwyd drwy ymchwil i bartneriaid ar ffurfiau cytunedig
3 paratoi cylchoedd gorchwyl gyda meini prawf cytunedig, gan awgrymu ychwanegiadau neu addasiadau i bartneriaid pan fydd yn briodol
4 monitro ac adrodd canlyniadau gofynion iechyd a diogelwch ac asesiadau risg yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5 trefnu gweithgareddau ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau sy'n bodloni cylchoedd gorchwyl a meini prawf
6 adnabod, canfod a sicrhau offer ac artistiaid sy'n ofynnol ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau partneriaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
7 cyflawni camau gweithredu cytunedig yn unol ag amserlenni ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau
8 casglu gwybodaeth sy'n berthnasol i werthuso prosiectau neu ddigwyddiadau aml-bartner ac ymgynghori yn ei chylch
9 storio gwybodaeth am brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw aml-bartner mewn systemau sefydliadol priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 lled a dyfnder darpariaeth celfyddydau, addysg neu ddarpariaeth arall sy'n bodoli eisoes sy'n berthnasol i'r prosiectau neu'r digwyddiadau rydych yn gweithio arnynt
2 sut i baratoi cylchoedd gorchwyl a phryd mae'n briodol awgrymu addasiadau
3 rôl a chyfrifoldebau allweddol pob aelod o'r bartneriaeth
4 sut i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau gyda phartneriaid neu ar eu cyfer
5 sut i gynhyrchu prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw priodol sy'n denu’r gynulleidfa darged
6 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer contractio artistiaid ac archebu offer
7 sut i drefnu chi'ch hun ac eraill
8 dulliau cyfathrebu ar gyfer y prosiectau neu'r digwyddiadau rydych yn gweithio arnynt
9 sut i gadw cymhelliant hyd yn oed pan nad yw pethau'n mynd fel y bwriadwyd
10 polisïau a deddfwriaeth sy'n berthnasol i bartneriaethau
11 pwysigrwydd monitro, gwerthuso a lledaenu mewn modd priodol
12 sut i lynu wrth amserlenni gwaith
13 sut i ddogfennu a chynnal cofnodion