Helpu i gynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw sy'n bodloni anghenion y farchnad
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chefnogi'r person sy'n cynllunio prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw i fodloni anghenion y farchnad. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Wrth ystyried prosiectau neu wasanaethau i'w cynnig gan eich sefydliad yn y dyfodol, mae'n bwysig gwybod bod angen yn y farchnad. Unwaith y sefydlwyd yr angen mae angen i chi ddeall yn glir sut byddwch yn cyrraedd y farchnad drwy weithgareddau hyrwyddo. Unwaith i chi gyrraedd cwsmeriaid, mae angen i chi sicrhau eich bod yn rheoli eich perthynas gyda nhw ac yn parhau i fodloni eu hanghenion. Gall cwsmeriaid gynnwys cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, artistiaid ac ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â helpu i gynllunio prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw er mwyn bodloni anghenion y farchnad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cynorthwyo gydag ymchwil ar adegau priodol i asesu anghenion y farchnad y gall y sefydliad, prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw eu bodloni
2 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i adnabod beth sydd ei angen ar ddarpar gwsmeriaid
3 cyfrannu syniadau i bobl berthnasol i bennu ffyrdd effeithiol o fodloni anghenion cwsmeriaid a hyrwyddo a marchnata eich sefydliad, eich prosiectau celfyddydau neu'ch digwyddiadau byw
4 helpu i ddatblygu cynigion ar gyfer darpar gwsmeriaid, buddsoddwyr neu randdeiliaid ar adegau priodol
5 cytuno gyda phobl berthnasol sut i wirio bod cwsmeriaid yn hapus gyda gwasanaethau'r sefydliad
6 cytuno gydag eraill ffyrdd o ymdrin â phroblemau cwsmeriaid sy'n bodloni gweithdrefnau sefydliadol
7 cyflwyno syniadau yn barhaus ynghylch sut i wella'r hyn sydd gan y sefydliad i'w gynnig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 technegau ymchwil a ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy
2 eich rôl chi a rôl pobl eraill mewn perthynas â chynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
3 sut i ddatblygu cynigion
4 sut gall sefydliadau bach ddeall eu marchnad a'u cystadleuaeth
5 pwysigrwydd canolbwyntio ar anghenion, mynediad a chyfranogiad cwsmeriaid
6 sut mae sefydliadau bach llwyddiannus wedi canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid
7 sut i ddehongli gwybodaeth am brofiad y cwsmer
8 sut i ymdrin â phroblemau cwsmeriaid
9 sut i ddod o hyd i enghreifftiau o brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw llwyddiannus a nodi pam y bu iddyn nhw weithio
10 ffyrdd y gallwch hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau sefydliad heb wario arian