Datblygu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â datblygu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae hyn yn golygu sefydlu, datblygu a chyflwyno syniadau, gan dynnu ar eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am ofynion y diwydiant. Mae'n ymwneud â sbarduno syniadau a datblygu rhai sy'n bodoli eisoes drwy awgrymu gwelliannau a deall sut caiff syniadau eu gwireddu mewn gwahanol gyfryngau a ffurfiau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â datblygu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw er mwyn ymgysylltu â chymuned darged.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 ymchwilio a chasglu data o ffynonellau dibynadwy er mwyn datblygu syniadau
2 awgrymu syniadau sy'n bodloni gofynion o ran ffurf, arddull, cyllideb a marchnad darged
3 datblygu syniadau sy'n gyflawnadwy ac yn wreiddiol
4 datblygu syniadau sy'n cyfrannu at amcanion sefydliadol
5 gwirio bod modd mynd i'r afael ag unrhyw oblygiadau o ran hawlfraint a phroblemau rheoleiddiol neu gyfreithiol posibl sy'n gysylltiedig â syniadau, yn unol â gofynion cyfreithiol
6 llunio cynigion syniadau amlinellol mewn ffurfiau sy'n galluogi pobl berthnasol i'w deall
7 datblygu gwybodaeth ddigon manwl i ategu syniadau arfaethedig a nodi a ydynt yn ddichonol
8 cynnig syniadau i randdeiliaid ar adegau priodol mewn ffyrdd sy'n amlinellu eu manteision
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y mathau o brosiect neu ddigwyddiad sydd wedi llwyddo i ddenu cyllid yn y gorffennol
2 sut i adnabod a chyflwyno gwybodaeth am farchnadoedd targed
3 tueddiadau a datblygiadau cyfredol, yn ogystal ag anghenion cyfnewidiol y farchnad darged
4 prosesau a gweithdrefnau, gan gynnwys cyllido
5 gofynion cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill o ran arddull, ffurf, cyllideb a'r farchnad darged ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw
6 sut i asesu dichonolrwydd syniadau o ran cost a ffactorau technegol a logistaidd
7 sut i wirio bod eich syniad yn wreiddiol
8 unrhyw godau ymarfer cyfreithiol neu sefydliadol sy'n berthnasol