Rheoli eich datblygiad proffesiynol parhaus
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r sgiliau a'r gefnogaeth y gallai fod eu hangen arnoch at y dyfodol ac am adnabod mecanweithiau cymorth i gynorthwyo'ch datblygiad proffesiynol. Mae'n cynnwys eich cael chi i ddatblygu a chynnal portffolio sy'n nodi manylion eich sgiliau a'ch datblygiad.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gorfod rheoli eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 egluro'ch gwerthoedd, eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad presennol mewn ffordd glir a chywir sy'n nodi eu perthnasedd i'r diwydiant ar hyn o bryd
2 nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol yn unol ag adfyfyrio am eich arfer, adborth o'ch gwaith a chysylltiad â chyfranogwyr, cymheiriaid a rhanddeiliaid
3 nodi ffyrdd o wella'ch arfer proffesiynol a fydd yn ateb meysydd blaenoriaeth o fewn cyfyngiadau cost ac amser
4 manteisio ar gyfleoedd anffurfiol i ddatblygu eich sgiliau pan fyddant yn cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus
5 gwerthuso effaith eich datblygiad proffesiynol ar eich arfer gwaith ar adegau priodol
6 cynnal portffolio cyfoes sy'n nodi manylion eich sgiliau a'ch datblygiad proffesiynol mewn ffurf sy'n briodol i'ch diwydiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 sut a chan bwy i gael adborth
2 sut i ddehongli a defnyddio adborth a dderbynnir
3 pwysigrwydd rhwydweithiau ac ymaelodi â sefydliadau i'ch datblygiad proffesiynol
4 pwysigrwydd gwerthfawrogi a buddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol
5 sut i adnabod cyfleoedd anffurfiol i ddatblygu eich sgiliau
6 dulliau datblygiad proffesiynol priodol yn eich maes gwaith
7 sut i adnabod adnoddau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol
8 sut i gyflwyno'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer eich diwydiant