Cynnal yr wybodaeth a'r cysylltiadau sy'n ofynnol ar gyfer eich gwaith
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal yr wybodaeth a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch i allu cyflawni eich gwaith yn effeithiol. Mae hyn yn golygu cadw ar y blaen â datblygiadau o fewn eich sefydliad ac yn y sector fel ei gilydd. At hynny, bydd angen i chi ddatblygu rhwydweithiau a gwneud defnydd o gysylltiadau personol a rhwydweithiau i helpu i ddarparu ystod eang o wybodaeth, cefnogaeth ac adnoddau i chi. Bydd gofyn i chi gynnal ymwybyddiaeth o dueddiadau a datblygiadau a allai effeithio ar y galw am fathau arbennig o brosiectau a gynhelir gan eich sefydliad neu effeithio arnynt, a gafael yn y newid a'r her a osodir gan dueddiadau a datblygiadau o'r fath.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un y mae angen iddynt gynnal eu gwybodaeth a'u cysylltiadau er mwyn gallu cyflawni eu gwaith yn effeithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 ymchwilio i wybodaeth a chyfeiriadau o ffynonellau dibynadwy i'ch helpu i gadw ar y blaen â'ch maes arbenigol
2 nodi tueddiadau a chyfleoedd sy'n effeithio ar arbenigedd(au) eich sefydliad neu ar brosiectau arbennig
3 cyflwyno gwybodaeth glir a chywir yn ymwneud â'ch ymchwil i bobl briodol
4 adnabod cyfleoedd i greu cysylltiadau newydd a fydd o fantais i'ch gweithgarwch
5 cyfrannu at gysylltiadau eich rhwydwaith mewn ffyrdd sy'n cynyddu eu hyder ynoch chi
6 gofyn i gysylltiadau am wybodaeth, cyngor a chysylltiadau pellach a fydd o fantais i'ch gweithgarwch
7 adnabod ffyrdd realistig y gall cysylltiadau newydd ychwanegu gwerth at y gwasanaethau a ddarperir gan eich sefydliad nawr ac yn y dyfodol
8 cynnal perthnasau â chysylltiadau yn unol â chanllawiau a osodir gan eich sefydliad
9 sefydlu ffiniau cyfrinachedd rhyngoch chi ac aelodau o'ch rhwydweithiau personol yn unol â chanllawiau sefydliadol
10 cadw mewn cysylltiad cyfoes â'ch rhwydweithiau a'ch cysylltiadau yn barhaus, a nodi ffyrdd gwell o'u defnyddio
11 nodi ffyrdd o wella ansawdd gwybodaeth a gewch gan eich cysylltiadau a sefydliadau rhwydwaith yn barhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 ble i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor am dueddiadau a chyfleoedd ym maes arbenigol eich sefydliad ac mewn meysydd eraill yn y celfyddydau
2 pwysigrwydd cadw ar y blaen gyda thueddiadau cyfredol
3 sut i adnabod datblygiadau a allai effeithio ar y galw am brosiectau arbennig neu effeithio arnynt
4 sut i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir a chywir
5 sut i wrando a holi
6 sut i gyfnewid gwybodaeth
7 pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd
8 diddordebau, sgiliau a ffyrdd dewisol cydweithwyr a chysylltiadau o weithio gyda chi
9 technegau ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer adnabod, cynyddu a chynnal cysylltiadau personol a ffurfio rhwydweithiau
10 y ffordd mae eich sefydliad yn rhwydweithio gyda sefydliadau eraill