Cefnogi gweithgareddau sy'n gwella cysylltiadau cyhoeddus o fewn sefydliad creadigol a diwylliannol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chefnogi gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus o fewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. O fewn eich sefydliadau creadigol a diwylliannol, "cwsmeriaid" yw'r holl bobl hynny sy'n defnyddio'ch gwasanaethau: cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, artistiaid, ymarferwyr, a rhanddeiliaid eraill. Mae'n ymwneud â helpu i ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth o bolisi cysylltiadau cyhoeddus a chasglu a defnyddio adborth cwsmeriaid i wella gweithgarwch gwasanaethau cwsmeriaid.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chefnogi gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus o fewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 gweithio gydag eraill i sefydlu polisi cysylltiadau cyhoeddus sy'n cefnogi gweithgareddau sefydliadol
2 cyfathrebu gofynion polisi cysylltiadau cyhoeddus i bobl berthnasol pan fydd gofyn
3 gweithio gydag eraill i gynhyrchu deunyddiau cysylltiadau cyhoeddus sy'n ateb gofynion sefydliadol
4 cynnal ymwybyddiaeth o faterion lleol a chenedlaethol sy'n cael effaith ar weithgareddau'ch sefydliad
5 cefnogi eraill o fewn y sefydliad ar adegau priodol i gynnal cysylltiadau cyhoeddus da
6 cyfathrebu gydag eraill mewn ffordd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth ac sy'n cynnal cysylltiadau cyhoeddus da
7 helpu pobl berthnasol i ymdrin ag achosion o wrthdaro a allai effeithio ar gysylltiadau cyhoeddus
8 darparu adborth adeiladol i eraill ar adegau priodol ynghylch datblygu cysylltiadau cyhoeddus da
9 cynnal ymgynghoriadau sy'n denu adborth dilys am weithgareddau
10 sefydlu safonau gwasanaethau cwsmeriaid sy'n cefnogi gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus
11 cyfathrebu gyda chwsmeriaid mewn ffordd gadarnhaol yn unol â safonau gwasanaethau cwsmeriaid
12 ymdrin â chwynion cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
13 pennu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid gan ddefnyddio dulliau ymgynghori cymeradwy
14 ymgymryd â dadansoddiad trylwyr a diduedd o adborth cwsmeriaid i bennu ffyrdd o wella gwasanaethau cwsmeriaid
15 datblygu safonau gwasanaethau cwsmeriaid ymhellach yn unol ag adborth cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 egwyddorion cynnal cysylltiadau cyhoeddus
2 elfennau hanfodol polisi cysylltiadau cyhoeddus
3 rôl cysylltiadau cyhoeddus wrth gefnogi gweithgareddau sefydliadol
4 materion lleol a chenedlaethol a allai effeithio ar ganfyddiad y cyhoedd o gysylltiadau cyhoeddus a chynnal cysylltiadau cyhoeddus yn eich sector
5 sut i gefnogi a chymell pobl i gynnal cysylltiadau cyhoeddus da
6 dulliau cyfathrebu effeithiol, yn ysgrifenedig ar lafar
7 dulliau y gellir eu cymhwyso i ddatrys achosion o wrthdaro
8 ffynonellau gwybodaeth, yn fewnol yn y sefydliad ac yn allanol
9 pwysigrwydd datblygu perthnasau gwaith da gyda chymunedau
10 y dulliau a ddefnyddir i ymgynghori â phob rhanddeiliad
11 egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid da
12 gofynion a phwysigrwydd safon gwasanaeth cwsmeriaid
13 nodweddion y gwasanaethau sy'n cael eu hyrwyddo i gwsmeriaid