Cynnwys amrywiaeth yn eich darpariaeth gwasanaeth
Trosolwg
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chyflwyno gwasanaeth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cyflwyno gwasanaethau rheng flaen yn unol ag amcanion y gwasanaeth, gan ystyried anghenion penodol grwpiau gwahanol
2 sicrhau bod technolegau mynediad yn addas at eu diben, yn weithredol ac yn ddiogel i'w defnyddio
3 cyfathrebu gydag amrywiol grwpiau o bobl yn unol â chanllawiau sefydliadol
4 awgrymu gwelliannau i wasanaethau a fydd yn gwella hygyrchedd i gyfranogwyr ag anghenion a nodwyd ac o gefndiroedd amrywiol
5 monitro a gwerthuso'r gwasanaethau rydych yn eu darparu yn erbyn meini prawf cytunedig i sicrhau bod anghenion amrywiol unigolion yn cael eu bodloni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y rhesymau dros ddarparu safonau gwasanaeth uchel
2 heriau cynhwysiant
3 nodweddion allweddol deddfwriaeth cydraddoldebau sy'n berthnasol i wasanaethau eich sefydliad
4 egwyddorion cynhwysiant a'r arfer cynhwysol sy'n berthnasol i'ch sefydliad
5 sut i fabwysiadu dull gweithredu hollgynhwysol tuag at ddarparu gwasanaethau
6 technolegau mynediad sy'n berthnasol i bobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau
7 sut mae amrywiaeth yn effeithio'n gadarnhaol ar grwpiau a gweithgareddau
8 dulliau o gyfathrebu ac ymgysylltu â phobl ag anghenion y mae modd eu nodi a chefndiroedd amrywiol
9 canllawiau sefydliadol yn ymwneud â chyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau o grwpiau amrywiol
10 pwysigrwydd gwerthuso priodol
11 pwysigrwydd iaith y corff a defodau cwrteisi
12 sut a ble i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor am ddeddfwriaeth berthnasol
13 ble i ddod o hyd i wybodaeth am nodau, amcanion a deilliannau ddarpariaeth