Ymdrin â sefyllfaoedd o wrthdaro go iawn a gwrthdaro posibl
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymdrin â sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro go iawn neu wrthdaro posibl rhwng pobl. Gall fod yn berthnasol i wrthdaro gyda'r cyhoedd neu gyda chydweithwyr. Mae'n cynnwys defnyddio cyfathrebu effeithiol ac iaith y corff i dawelu sefyllfaoedd, tra'n cynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill. Mae'n cynnwys rhoi cyngor a rhybuddion a galw am gymorth pan fydd angen. Nid yw'n cynnwys ceisio rheoli na ffrwyno rhywun.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n datrys sefyllfaoedd o wrthdaro go iawn neu wrthdaro posibl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cyfathrebu gyda phobl mewn ffordd dawel er mwyn lleiafu a lleihau gwrthdaro
2 dangos i bobl eraill bob amser eich bod yn gwrando ar yr hyn maent yn ei ddweud wrthych
3 defnyddio ffordd briodol o holi er mwyn cael gwybodaeth bellach am y sefyllfa
4 crynhoi a rhoi adborth i bobl am yr hyn maent wedi'i ddweud a chadarnhau eich dealltwriaeth o'r sefyllfa ar adegau priodol
5 defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i asesu risgiau posibl sefyllfaoedd i chi'ch hun ac eraill sy'n gysylltiedig
6 cymryd camau gweithredu priodol i gynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill yn unol â chanllawiau sefydliadol
7 dilyn gweithdrefnau cytunedig ar gyfer y math o sefyllfa a'r bobl sy'n gysylltiedig
8 adrodd am sefyllfaoedd o wrthdaro a'r camau gweithredu a gymerwyd i bobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y mathau o sefyllfaoedd o wrthdaro sy'n debygol o godi a'r ymateb cywir i bob math o sefyllfa
2 ystyriaethau cyfreithiol sy'n cynnwys hunanamddiffyn a'r defnydd o rym
3 pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn aneiriol gyda phobl mewn sefyllfaoedd o wrthdaro a sut mae cyfathrebu gwael yn gallu gwneud sefyllfaoedd yn waeth
4 pam mae'n bwysig dangos eich bod yn gwrando'n weithredol ar yr hyn sy'n cael ei ddweud a sut i wneud hynny
5 sut i ddefnyddio ffurfiau holi priodol i gael gwybodaeth am sefyllfa
6 pam mae'n bwysig crynhoi a rhoi adborth i eraill ynghylch yr hyn rydych wedi'u clywed yn ei ddweud
7 sut i gyflawni asesiadau risg mewn sefyllfaoedd o wrthdaro a'r ffactorau dylech eu hystyried
8 pryd mae'n briodol cymryd camau gweithredu penodol gan gynnwys gwneud dim, cadw i arsylwi, rhoi cyngor neu rybudd, galw am gymorth gan eraill yn y sefydliad, cael pobl wedi'u symud o'r ardal/adeilad a galw am gymorth yr heddlu
9 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd a chofnodi sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau
**
**
Cwmpas/ystod