Hwyluso grwpiau mewn gweithgareddau celfyddydau cymunedol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â hwyluso gweithgareddau celfyddydau cymunedol ar gyfer grwpiau. Mae'n ymwneud â gweithio mewn ffordd sydd o’r fantais fwyaf priodol i’r unigolion yn y grŵp, gan sicrhau bod amcanion gweithgareddau'n cael eu cyflawni a bod pob unigolyn yn cael cyfle i gyfranogi.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chyflwyno gweithgareddau celfyddydau cymunedol i grwpiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 hwyluso grwpiau fel bod amcanion gweithgareddau celfyddydau’n cael eu cyflawni
2 sicrhau bod pob unigolyn yn ymgysylltu mewn gweithgareddau i'r eithaf
3 ymdrin ag anawsterau ac achosion o wrthdaro mewn grwpiau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 arddulliau a phrosesau hwyluso ac arweinyddiaeth
2 y gwahaniaethau rhwng anghenion grŵp ac anghenion unigolion o fewn grŵp
3 sut i gyfathrebu gyda grŵp ar lafar ac yn aneiriol
4 sut mae grwpiau'n datblygu a sut mae unigolion mewn grŵp yn rhyngweithio
5 sut i ddatblygu cyfranogiad mewn grŵp
6 sut i ymdrin ag anawsterau ac achosion o wrthdaro mewn grŵp
7 sut i weithio gyda phobl gydag anghenion amrywiol a chymhleth mewn grŵp