Cefnogi cyfranogwyr i ymgysylltu a datblygu mewn gweithgareddau celfyddydau cymunedol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â galluogi cyfranogwyr i ymgysylltu a datblygu mewn gweithgareddau celfyddydau. Mae'n cynnwys dangos bod gennych wybodaeth a phrofiad credadwy o'ch celfyddyd i ymgysylltu â chyfranogwyr yn ogystal â'u herio a'u harwain i ddatblygu eu sgiliau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rhedeg gweithgareddau celfyddydau.
**
**
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 dangos gwybodaeth a phrofiad digonol o ddefnyddio'ch celfyddyd i annog cyfranogwyr i weithio gyda chi
2 darparu heriau artistig i gyfranogwyr sy'n briodol i'w galluoedd a'u dyheadau
3 darparu arweiniad a chefnogaeth sy'n galluogi cyfranogwyr i fagu hyder a chymhwysedd
4 arwain gweithgareddau celfyddydau yn unol â gofynion y sefydliad lle rydych yn gweithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 eich lefel a'ch gallu eich hun yn eich celfyddyd ddewisol
2 pwysigrwydd parhau i wella'ch arfer eich hun a'ch gwybodaeth am y gweithgareddau celfyddydau rydych yn eu harwain
3 heriau, arweiniad a chymorth priodol ar gyfer unigolion a grwpiau
4 sgiliau arweinyddiaeth yn y celfydyddau
5 gofynion sefydliadol ar gyfer gweithgareddau celfyddydau