Arwain gweithgareddau celfyddydau cymunedol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag arwain gweithgareddau celfyddydau cymunedol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu nodau cyffredin, defnyddio technegau cyflwyno priodol a sicrhau eich bod yn diogelu eich iechyd, diogelwch a llesiant eich hun ac iechyd, diogelwch a llesiant cyfranogwyr yn ystod sesiynau. Mae hyn hefyd yn cynnwys diogelu cyn ac ar ôl sesiynau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth yn y celfyddydau.
**
**
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 defnyddio technegau cyflwyno sy'n ateb anghenion penodol cyfranogwyr
2 sefydlu nodau sy'n briodol i gyfranogwyr a gweithgareddau
3 asesu, ymateb a bod yn hyblyg i anghenion cyfranogwyr mewn sesiynau bob amser
4 hwyluso amgylcheddau diogel ac effeithiol sy'n gwneud i gyfranogwyr deimlo'n gyfforddus ac sy'n sicrhau eu llesiant
5 cynnal asesiadau risg a rheoli risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol
6 sefydlu rheolau sylfaenol sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, parch a diogelwch cyfranogwyr a chi'ch hun yn ystod sesiynau celfyddydau
7 dilyn gweithdrefnau diogelu priodol bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 pwysigrwydd arsylwi cyfranogwyr i asesu arfer diogel ac effeithiol
2 pwysigrwydd sefydlu rheolau sylfaenol gyda chyfranogwyr
3 pam mae'n bwysig addasu sesiynau er mwyn eu cyflwyno'n ddiogel ac yn effeithiol a sut i wneud hynny
4 sut i ystyried llesiant cyfranogwyr mewn sesiynau
5 ble i gael cymorth ychwanegol ar gyfer eich arfer
6 sut i gymryd cyfrifoldeb dros eich llesiant eich hun
7 sut i gyflawni asesiad risg a rheoli risgiau a nodwyd
8 cyfrifoldebau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol perthnasol mewn amgylchedd celfyddydau
9 gweithdrefnau diogelu i'w dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl sesiynau