Cefnogi datblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau celfyddydau cymunedol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gyda datblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau celfyddydau cymunedol. Mae hyn yn cynnwys deall nodau, amcanion, cyllidebau ac amserlenni'r prosiectau rydych yn gysylltiedig â nhw a'ch rôl oddi mewn iddynt a chyflawni'r gweithgareddau a neilltuwyd i chi pan fydd gofyn am hynny.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chefnogi'r rheiny sy'n datblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau celfyddydau cymunedol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cytuno ar eich rôl mewn timau prosiect gyda phobl berthnasol
2 cyflawni eich gwaith yn ôl safonau disgwyliedig ac o fewn amserlenni disgwyliedig
3 sefydlu gwybodaeth prosiectau sy'n ofynnol ar gyfer monitro cynnydd prosiectau mewn systemau priodol
4 olrhain a monitro gweithgareddau, cyllidebau ac amserlenni prosiectau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5 ymgynghori a chasglu gwybodaeth sy'n berthnasol i werthuso prosiectau
6 trosglwyddo gwybodaeth am fonitro a gwerthuso i bobl briodol pan fydd angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y nodau ac amcanion allweddol ar gyfer y prosiectau rydych yn gweithio arnynt
2 gyda phwy i gytuno eich rôl a'ch gweithgareddau
3 gweithgarwch gwaith, amserlenni a chyllidebau ar gyfer y prosiectau rydych yn gweithio arnynt
4 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer olrhain a monitro prosiectau
5 mathau o wybodaeth sy'n ofynnol i werthuso prosiect a sut i'w chasglu a'i storio
6 pryd mae'n briodol i drosglwyddo gwybodaeth i bobl eraill a phwy i'w throsglwyddo iddynt