Adnabod anghenion y gynulleidfa darged ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod anghenion y gynulleidfa darged ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw cyn eu cynllunio. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae'n cynnwys dysgu am eu hanghenion a'u disgwyliadau, gan gynnwys anghenion a disgwyliadau unrhyw grwpiau neu unigolion penodol ynddynt.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig ag adnabod anghenion cynulleidfa darged ar gyfer rhaglenni celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cytuno marchnadoedd targed ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw gyda phobl berthnasol
2 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ddadansoddi bwriad, diben, anghenion a disgwyliadau marchnadoedd a nodwyd gan gynnwys unrhyw grwpiau neu unigolion penodol
3 asesu'r sgiliau a'r math o gynnwys sydd ei angen i fodloni bwriad, diben, anghenion a disgwyliadau marchnadoedd targed a'r grwpiau neu'r unigolion penodol ynddynt
4 adnabod sianeli priodol i gyrraedd marchnadoedd targed
* *
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 gyda phwy i gytuno marchnadoedd targed ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw
2 ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am eich marchnad darged
3 sut i ddadansoddi disgwyliadau marchnadoedd a nodwyd neu farchnadoedd posibl
4 sut i werthuso gofynion sgiliau a chynnwys
5 amgylchedd/lleoliad y farchnad a nodwyd a sut i'w cyrraedd