Dylunio prosiectau celfyddydau cymunedol ar gyfer grwpiau ac unigolion penodol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â dylunio prosiectau celfyddydau cymunedol ar gyfer grwpiau neu unigolion penodol. Gallai hyn gynnwys dylunio cyfres o brosiectau sy'n ffurfio rhaglen.
Rhaid i brosiectau a rhaglenni fod yn glir o ran eu diben a chyd-fynd â'r sgiliau sydd ar gael i chi. Rhaid iddynt fod yn gynhwysol ac ateb anghenion a disgwyliadau grwpiau ac unigolion penodol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â dylunio prosiectau neu raglenni celfyddydau cymunedol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 dylunio rhaglenni celfyddydau sy'n ateb bwriadau a diben y sefydliad ac unrhyw raglenni trosfwaol
2 defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i nodi anghenion pob grŵp neu unigolyn penodol yn y gynulleidfa darged
3 dylunio rhaglenni celfyddydau sy'n ateb anghenion grwpiau ac unigolion a adnabuwyd
4 dylunio rhaglenni celfyddydau sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch profiad
5 sicrhau bod rhaglenni celfyddydau arfaethedig yn briodol i'r lleoliad ac yn ateb unrhyw gyfyngiadau ffisegol
6 sicrhau y bydd yr amgylchedd yn ddiogel i gyfranogwyr yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
7 asesu effaith unrhyw newidiadau a allai godi ar ddyluniad y rhaglen gelfyddydau a phenderfynu sut i ymdrin â nhw
8 cydymffurfio â chaniatadau perthnasol a gofynion cyfreithiol wrth ddylunio rhaglenni celfyddydau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 bwriadau a diben y sefydliad
2 nodau, amcanion a deilliannau ar gyfer unrhyw raglenni trosfwaol
3 ffynonellau gwybodaeth am grwpiau ac unigolion penodol
4 sut i ddylunio rhaglenni celfyddydau i gyflawni amcanion penodol
5 sut i gymhwyso sgiliau arweinyddiaeth yn y celfyddydau fel eu bod yn addas at fwriad a diben y gwaith i chi a'ch grŵp/cyfranogwyr
6 y lleoliad(au) lle rydych yn bwriadu gweithio a'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt gennych chi a'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ganddyn nhw
7 sefyllfaoedd a allai beri newid i ddyluniad y rhaglen gan gynnwys gormod o alw, dim digon o ymateb, amcanion yn newid yn y rhaglenni trosfwaol neu golli cyllid
8 effaith newidiadau ar unrhyw agwedd ar y gweithgarwch arfaethedig a sut gellir lleihau'r effaith hon
9 sut i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r rôl fydd gennych fel arweinydd celfyddydau gydag unigolion a sefydliadau sy'n cefnogi eich rhaglen creu celf
10 y fframweithiau cyfreithiol perthnasol y byddwch yn gweithredu oddi mewn iddynt gan gynnwys unrhyw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, caniatâd diogelu data ar gyfer dogfennu rhaglenni a chaniatadau i weithio gyda grwpiau penodol o bobl