Gweithio gyda chymunedau lleol i reoli disgwyliadau ar gyfer digwyddiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chymunedau lleol i reoli eu disgwyliadau ar gyfer digwyddiadau. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Byddwch yn cytuno ar strategaeth ar gyfer ymgysylltu, yn ymgynghori ac yn cyfathrebu gyda chymunedau, yn monitro canfyddiadau cymunedau ac yn gwerthuso ac yn gwella'ch dull gweithredu at y dyfodol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â gweithio gyda chymunedau lleol i reoli eu disgwyliadau ar gyfer digwyddiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol i ddatblygu a chytuno ar strategaeth ar gyfer rheoli disgwyliadau'r gymuned
2 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i nodi agweddau o ddigwyddiadau a allai effeithio ar gymunedau lleol
3 nodi camau gweithredu a fydd yn helpu cymunedau i ymgysylltu'n gadarnhaol â digwyddiadau
4 rheoli anghenion a disgwyliadau'r gymuned yn barhaus
5 defnyddio dulliau cyfathrebu a fydd yn cyrraedd y rhan fwyaf o bobl mewn cymunedau lleol
6 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i fonitro disgwyliadau'r gymuned
7 adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau a chamau gweithredu ar adegau priodol
8 nodi newidiadau i strategaethau a chamau gweithredu a allai wella ymgysylltiad cymunedau mewn digwyddiadau yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 pwysigrwydd cael cefnogaeth y gymuned ar gyfer digwyddiadau
2 yr effaith y gallai digwyddiadau ei chael ar gymunedau gan gynnwys sŵn a mynediad
3 dulliau ymgynghori i adnabod anghenion a disgwyliadau
4 camau gweithredu a allai helpu cymunedau i ymgysylltu â digwyddiadau gan gynnwys tocynnau am bris gostyngol, cyfathrebiadau rheolaidd, sicrwydd am amseriadau
5 pam mae'n bwysig i unrhyw ymgynghori neu gyfathrebu gyda chymunedau ehangach fod yn gynhwysol ac yn ystyrlon a ffyrdd o ddangos hyn
6 y gwahanol ddiwylliannau a chredoau mewn cymunedau ehangach a sut gall y rhain effeithio ar deimladau ac ymddygiad y gymuned
7 sut i sefydlu a chynnal sianeli ymgynghori a chyfathrebu gyda chymunedau a pham mae hyn yn bwysig
8 camau gweithredu y gellid eu cymryd i sicrhau cefnogaeth y gymuned ar gyfer digwyddiadau
9 pwysigrwydd gwerthuso effeithiau gweithgarwch ymgysylltu cymunedol
10 sut i ddangos tystiolaeth a gwerthuso ymgysylltiad effeithiol â chymunedau