Drafftio a gwerthuso datganiadau i'r wasg
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi gwybodaeth i'r cyhoedd a'r wasg, ar ffurf datganiadau i'r wasg. Mae'n ymwneud ag ysgrifennu, golygu a pharatoi datganiad i'r wasg i'w gyhoeddi, a gwybod pa wybodaeth i'w chyhoeddi a sut orau i'w chyflwyno yn unol â natur y gynulleidfa.
Bydd angen i chi ddeall yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â rhyddhau gwybodaeth i'r cyhoedd a'r wasg, yn enwedig lle mae materion sensitif neu ddadleuol dan sylw.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â drafftio a gwerthuso datganiadau i'r wasg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 egluro a chytuno gyda phobl briodol ar arddull y deunydd sy'n ofynnol, y gynulleidfa fwriadedig, a chynnwys, hyd ac ansawdd y deunydd
2 cytuno ar adnoddau ac amserlenni gofynnol i gynhyrchu datganiadau i'r wasg gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau
3 asesu a choladu deunydd ffeithiol a graffeg sy'n gywir ac yn berthnasol i'r gynulleidfa fwriadedig
4 paratoi copi drafft yn unol â gofynion datganiadau i'r wasg, gan gytuno ar unrhyw newidiadau gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau
5 cytuno ar ddeunydd terfynol sy'n cydbwyso anghenion a diddordebau'r gynulleidfa yn erbyn cyfyngiadau amser, costau a chyfyngiadau cyfreithiol
6 cynnal cyfathrebu effeithiol gyda phobl sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a dosbarthu fel bod gofynion yn cael eu bodloni o ran amser a chyllideb
7 gwirio proflenni a sicrhau bod y deunydd yn cydymffurfio â chanfyddiadau ymchwil, cynnwys ac arddull cytunedig, polisi golygyddol a manylebau print/gwefan
8 unioni unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn proflenni'n ddi-oed
9 sicrhau bod y gwaith cludo a dosbarthu'n cael ei gyflawni fel a gytunir
10 hysbysu pobl berthasol sut gall y cyhoedd yn gyffredinol gael hyd i ddeunydd
11 cytuno ar feini prawf i werthuso effeithiolrwydd datganiadau i'r wasg gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau
12 gwerthuso datganiad i'r wasg yn erbyn meini prawf cytunedig
13 cyflwyno canlyniadau gwerthusiadau i’r bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 sut i egluro a dod i gytundeb ynghylch disgwyliadau a gofynion ar gyfer datganiadau i'r wasg
2 ffiniau'r gyllideb rydych yn gweithio oddi mewn iddynt
3 polisi golygyddol y cynhyrchiad, a sut mae'n effeithio ar y defnydd o ddeunydd
4 y gynulleidfa fwriadedig, profiad y cwsmer a'r goblygiadau ar gyfer dethol deunydd
5 pwy yw'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau a sut i gyfathrebu gyda nhw
6 yr amserlenni a'r adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu'r deunydd
7 diben, cwmpas, arddull a ffurf y deunydd
8 y cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol sy’n gysylltiedig â chyhoeddiadau
9 ffurf ac arddull ysgrifennu sy'n gysylltiedig â datganiadau i'r wasg
10 gyda phwy i gyfathrebu ar wahanol gamau yn y broses gan gynnwys y bobl sy'n gwneud penderfyniadau, dylunwyr, argraffwyr, cyhoeddwyr a'r bobl y bwriedir y datganiad i'r wasg ar eu cyfer
11 sut i gyfathrebu gyda phawb sy'n gysylltiedig a phryd mae'n briodol gwneud hynny
12 sut i adnabod ac unioni gwallau a hepgoriadau mewn proflenni
13 y broses o gyhoeddi ar y we
14 sut i bennu meini prawf er mwyn gwerthuso datganiadau i'r wasg