Denu cyhoeddusrwydd i brosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwneud y defnydd gorau posibl o gyfleoedd i ddenu cyhoeddusrwydd i brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae'n cynnwys hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus er mwyn gwella sylw yn y cyfryngau sydd ar gael, yn gyfryngau printiedig ac ar-lein. Mae angen i chi ddeall yr holl brosesau sy'n gysylltiedig â marchnata a hyrwyddo digwyddiadau byw, beth yw lle adnabod a denu gwahanol fathau o gyhoeddusrwydd yn hyn o beth, a pham mae hyn yn bwysig.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n adnabod ac yn mwyafu cyfleoedd i ddenu cyhoeddusrwydd i brosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cysylltu â chydweithwyr priodol i adnabod amcanion ar gyfer cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer sefydliadau, prosiectau neu ddigwyddiadau
2 cyfrannu syniadau ar gyfer strategaethau hysbysebu, dulliau cyhoeddusrwydd amgen a'r defnydd gorau o'r gyllideb sy'n ateb anghenion cyhoeddusrwydd ar adegau priodol
3 cael gwybodaeth gywir o gronfeydd data sefydliadol am y bobl hynny sydd â diddordeb wedi'i gofrestru mewn lleoliadau, prosiectau neu ddigwyddiadau
4 adnabod cyhoeddiadau ar gyfer hysbysebu sy'n briodol i gynulleidfaoedd targed
5 defnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy i nodi dyddiadau cyhoeddi a therfynau cyflwyno ar gyfer cyfryngau priodol
6 cymryd camau dilynol ar gyhoeddusrwydd a ddosbarthwyd ar adegau sy'n cynnal momentwm
7 cylchredeg gwybodaeth ynghylch llwyddiannau cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus i bawb y mae angen eu cadw'n gysylltiedig
8 integreiddio strategaethau cyhoeddusrwydd gyda gweithgarwch hyrwyddo arall er mwyn cyflawni amcanion marchnata
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y gyllideb a ddyrannwyd i gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus
2 pwysigrwydd cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus yn y strategaeth farchnata gyffredinol ar gyfer y sefydliad neu'r digwyddiad
3 ffynonellau gwybodaeth am y gynulleidfa darged a phrofiad y cwsmer
4 sut i gael hyd i wybodaeth am y cyfryngau sy'n debygol o fod â diddordeb yn y sefydliad gan gynnwys ffynonellau mewnol neu gysylltiadau allanol
5 pwy yn y sefydliad sy'n gysylltiedig â chyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus, a pha systemau sy'n bodoli i sicrhau eu bod yn cysylltu â'i gilydd, er mwyn osgoi dyblygu
6 terfynau amser y cyfryngau ar gyfer derbyn gwybodaeth
7 teclynnau marchnata i hysbysu'r cyfryngau o gynnyrch cyhoeddi
8 asedau mewnol i'w defnyddio gan gynnwys cronfa ddata o gysylltiadau, awduron sydd wedi'u cysylltu'n dda a meicrofannau eraill ar wefan y sefydliad
9 pryd a ble i ddefnyddio cynigion hyrwyddo trydydd parti a chwmnïau marchnata
10 prosesau, defnyddiau, manteision ac anfanteision mathau amgen o hyrwyddo gan gynnwys dosbarthu taflenni, gwe-ddarllediadau, marchnata feirysol, rhwydweithio cymdeithasol, e-fforymau a blogwyr a dylanwadwyr allweddol eraill
11 gweithdrefnau camau dilynol mewnol ar gyfer monitro a chynnal momentwm mewn cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys dilyn galwadau ffôn neu e-byst
12 ble a sut i gael hyd i wybodaeth am wasanaethau monitro allanol gan gynnwys asiantaethau monitro'r cyfryngau, gwasanaethau adolygu a chrynhoi
13 pwy yn y sefydliad y mae angen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys staff gwerthu, cyfrifon allweddol, staff golygyddol a'r rhai sy'n ysgrifennu copi marchnata
14 polisi'ch sefydliad ar ailddefnyddio neu ailffurfio cynnwys, yn yr hirdymor ac yn barhaus
15 deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau'n gysylltiedig â hawliau'r defnyddiwr terfynol a'r defnydd o wybodaeth bersonol