Coladu a chyflwyno gwybodaeth am werthiant tocynnau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw

URN: CCSAPLE23
Sectorau Busnes (Suites): Cyflwyno Prosiectau Celfyddydau a Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â choladu a chyflwyno gwybodaeth yn gysylltiedig â gwerthiant tocynnau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.  Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.

Mae hyn yn cynnwys anfon yr wybodaeth at hyrwyddwyr a/neu asiantiaid a darparu cymhariaeth o'r gwerthiannau yn erbyn digwyddiadau blaenorol.  Bydd y Safon hon yn gofyn i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol i gysylltu ag asiantiaid tocynnau a'r bobl hynny sy'n gofyn am yr wybodaeth.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n coladu ac yn cyflwyno gwybodaeth am werthiant tocynnau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      defnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy i adnabod yr holl sefydliadau sy'n gwerthu tocynnau

2      cysylltu â sefydliadau tocynnau ar adegau priodol er mwyn nodi'r union docynnau a werthwyd

3      coladu gwybodaeth yn gysylltiedig â gwerthiant tocynnau mewn systemau sefydliadol

4      dadansoddi gwerthiant tocynnau yn erbyn meini prawf cytunedig

5      coladu a dadansoddi gwybodaeth am unrhyw docynnau a werthwyd drwy gynigion tocynnau yn erbyn meini prawf cytunedig

6      anfon gwybodaeth am werthiant tocynnau ymlaen at bobl briodol ar adegau priodol

7      cadw gwybodaeth am werthiant tocynnau mewn ffolderi digwyddiadau yn gyfoes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      ble mae tocynnau'n cael eu gwerthu

2      y bobl briodol ym mhob sefydliad tocynnau i gysylltu â nhw mewn perthynas â gwybodaeth tocynnau

3      systemau sefydliadol ar gyfer coladu a chyflwyno gwybodaeth am werthiant tocynnau

4      manylion unrhyw gynigion tocynnau arbennig sydd ar waith gan gynnwys disgowntiau prynu'n gynnar, pecynnau sy'n cyfuno tocyn a theithio/llety, disgowntiau grŵp, tocynnau pwysigion

5      sut i gyfathrebu ag asiantiaid tocynnau ac eraill yn y sefydliad

6      sut i ddadansoddi gwybodaeth am werthiant tocynnau gan gynnwys y gwerthiannau yn erbyn gwerthiannau blaenorol ar gyfer yr artist, gwerthiannau yn erbyn gwerthiannau blaenorol ar gyfer y digwyddiad neu wybodaeth benodedig arall

7      at bwy y dylid anfon yr wybodaeth a goladwyd 

8    pwysigrwydd cadw ffeil y digwyddiad yn gyfoes  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSAPLE23

Galwedigaethau Perthnasol

Artist, Gweinyddydd Celfyddydau, Gweithiwr Datblygu'r Celfyddydau, Arweinydd Celfyddydau, Artist Cymunedol, Gweinyddydd Celfyddydau Cymunedol, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Gweinyddydd Digwyddiadau Byw, Cydlynydd Digwyddiadau Byw

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Celfyddydau; Digwyddiadau byw; Cymuned; Tocynnau; Gwerthu; Asiantau