Trefnu taithrestrau, trefniadau teithio a llety ar gyfer teithiau, prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â helpu paratoi taithrestrau teithiau a threfnu teithio a llety ar gyfer teithiau, prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallai hyn fod ar eich cyfer chi, artistiaid, hwyluswyr, criwiau a thimau cynhyrchu yn y sectorau celfyddydau cymunedol neu fasnachol a gallai gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae'n bwysig eich bod yn llawn ddeall gofynion y teithwyr ynghyd â'r gyllideb. Mae disgwyl i chi gyfrannu at wneud a chadarnhau trefniadau, coladu dogfennau teithio a chreu taithrestr. Bydd disgwyl i chi gyfathrebu â phawb sy'n gysylltiedig â thaith, sioe neu ddigwyddiad ac ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n codi o'r trefniadau. Dylech ymgymryd â gwerthusiad o'r gwasanaethau a ddarperir a chofnodi'r manylion er gwybodaeth yn y dyfodol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â threfnu taithrestrau, trefniadau teithio a llety ar gyfer teithiau, prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cadarnhau gofynion teithio, llety, cyllideb, deietegol a mynediad gyda phobl briodol
2 nodi opsiynau teithio a llety sy'n ateb gofynion y daith
3 gwirio taithrestrau ac amserlenni drafft gyda theithwyr ar adegau priodol, gan gyfrannu at drafodaethau i gynorthwyo i gwblhau'r rhain
4 coladu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy er mwyn cwblhau taithrestrau dydd a thaithrestrau llawn
5 paratoi taithrestrau sy'n cynnwys amserau ar gyfer yr holl weithgareddau sy'n ofynnol ar gyfer teithiau
6 trefnu cyfarfodydd sy'n ofynnol yn ystod teithiau rhwng y bobl ac ar adegau ac mewn lleoliadau sy'n ateb gofynion
7 cadarnhau trefniadau teithio a llety yn unol â'r brîff a'r gyllideb a gytunwyd
8 cael a choladu dogfennau ar gyfer teithio, llety a chyfarfodydd yn unol â gofynion sefydliadol
9 cadw cofnodion teithio, llety a chyfarfodydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
10 trefnu cyfleusterau credyd a thalu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
11 delio gyda phroblemau a allai godi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
12 darparu taithrestrau a dogfennau gofynnol mewn da bryd i deithwyr, gan gadarnhau eu bod yn ateb eu gofynion
13 gwerthuso gwasanaethau allanol a ddefnyddir yn erbyn meini prawf cytunedig
14 cadw cofnod o ganlyniadau gwerthuso mewn systemau sefydliadol at ddefnydd yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y prosesau y tu ôl i lunio taithrestr taith
2 y gweithgareddau yn ystod teithiau a'r amser y dylid ei ddyrannu iddynt, gan gynnwys amserau cyrraedd, llwytho i mewn, gwirio'r sain a’r llwyfan
3 sut i drefnu trefniadau teithio a llety busnes
4 y prif fathau o drefniadau teithio a llety y gallai fod angen i chi eu gwneud a'r gweithdrefnau y dylech eu dilyn
5 pobl sy'n gyfrifol am y brîff teithio a llety a'r gyllideb
6 pam mae'n bwysig cadarnhau gofynion mynediad a deietegol teithwyr
7 ffynonellau gwybodaeth a chyfleusterau ar gyfer gwneud trefniadau teithio a llety
8 systemau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion trefniadau teithio a llety
9 yr wybodaeth y dylech ei darparu i deithwyr
10 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwneud trefniadau credyd a thalu
11 mathau o broblemau a allai godi gyda threfniadau teithio a llety a sut i ddelio â nhw
12 pam mae'n bwysig gwerthuso'r teithio a'r llety a ddefnyddiwyd a chofnodi'r gwerthusiad