Rheoli newidiadau i amserlenni prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli newidiadau i amserlenni prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Gallai newidiadau fod yn gysylltiedig â gweithgareddau a/neu adnoddau. Bydd angen i chi gael gwybodaeth am geisiadau i wneud newidiadau a nodi eu goblygiadau, cyd-drafod newidiadau mewn gweithgareddau eraill, cofnodi newidiadau a gytunir a chyfathrebu newidiadau i bawb sy'n gysylltiedig.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli newidiadau i amserlenni ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cael gwybodaeth am newidiadau a geisir o ffynonellau dibynadwy
2 cysylltu â phobl briodol er mwyn blaenoriaethu newidiadau a geisir
3 nodi goblygiadau'r newidiadau a geisir ar weithgareddau eraill yn yr amserlen a'r amserlen yn ei chyfanrwydd
4 cyd-drafod trefniadau amgen sy'n datrys problemau gydag amserlennu
5 cofnodi newidiadau a gytunir i'r amserlen a'r gweithgareddau yn unol â gofynion sefydliadol
6 cyfathrebu'r newidiadau a gytunir i bob person priodol heb oedi
7 cadw'r amserlen a ffeil y digwyddiad yn gyfoes bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 pam mae'n bwysig cynllunio a chydlynu gweithgareddau ac adnoddau
2 manteision ac anfanteision gwahanol fathau o amserlen, pryd maen nhw'n briodol a sut i'w defnyddio
3 y mathau o wybodaeth y mae'n rhaid i chi eu casglu am newidiadau a pham
4 pam mae'n bwysig blaenoriaethu gofynion, sut cânt eu blaenoriaethu a phwy dylech siarad â nhw, er mwyn adnabod a chadarnhau blaenoriaethau
5 y mathau o broblemau a allai godi pan ofynnir am newidiadau a sut i'w datrys
6 pam mae'n bwysig ceisio cydbwyso anghenion pawb sy'n gysylltiedig
7 pwy dylid eu hysbysu am newidiadau
8 pam mae'n bwysig cadw amserlenni'n gyfoes
9 pam mae materion diogelwch a chyfrinachedd yn bwysig
10 pwysigrwydd cadw ffeiliau digwyddiadau