Creu cynlluniau ac amserlenni ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gwaith cynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae'n ymwneud â chysylltu ag eraill i dynnu ynghyd yr wybodaeth i greu amserlenni a llinellau amser sy'n caniatáu digon o amser i amcanion gael eu hateb, ac i adnoddau gael eu defnyddio'n effeithlon. Mae'n golygu nodi pa lwfansau sydd wedi'u gwneud ar gyfer ffactorau sy'n debygol o oedi'r cynhyrchiad a chadw cynlluniau ac amserlenni cywir a chyfoes yn ffeil y digwyddiad.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chynllunio ac amserlennu prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cysylltu gyda'r holl bobl angenrheidiol i gael gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cynllunio prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
2 dyrannu digon o amser ar gyfer pob cam yn y broses gynhyrchu er mwyn ateb amcanion a chyfyngiadau adnoddau wrth gyfrannu at greu llinellau amser
3 cyfnewid gwybodaeth am gynlluniau ac amserlenni gyda'r holl bobl hynny sy'n gysylltiedig ar adegau priodol
4 nodi ac ystyried ffactorau a allai beri oedi i'r gweithgareddau
5 gwneud cynlluniau realistig wrth gefn er mwyn ymdrin ag unrhyw oedi a allai godi
6 gwirio bod cynlluniau ac amserlenni cynhyrchu'n gywir a'u bod yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol
7 cyflwyno cynlluniau ac amserlenni mewn ffyrdd y gall y rhai sy'n eu derbyn eu deall
8 dosbarthu cynlluniau ac amserlenni i'r holl bobl berthnasol, gan roi cyfleoedd iddynt nodi a mynegi eu pryderon ynghylch dichonolrwydd
9 awgrymu datrysiadau realistig sy'n mynd i'r afael ag anawsterau sydd wedi'u nodi o ran gweithredu
10 cyfathrebu newidiadau i amserlenni i'r holl bobl berthnasol heb oedi
11 cyfrannu at ffeil y digwyddiad, ei diweddaru a chyfeirio ati bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 trefn ofynnol a hyd tebygol gweithgareddau mewn camau gwahanol o'r broses
2 sut gall dyraniad yr adnoddau effeithio ar gynllunio a sut i'w defnyddio'n effeithiol
3 pwysigrwydd y llinell amser
4 ffactorau sy'n gallu effeithio ar y ffordd caiff gweithgareddau eu hamserlennu
5 natur a phwysigrwydd cymharol gweithgareddau sy'n codi mewn camau gwahanol o'r broses
6 sut mae gwahanol amgylcheddau cynhyrchu a mathau a graddfeydd cynhyrchu'n gallu effeithio ar amserlennu
7 effaith debygol gweithio dramor ar amserlenni, gan gynnwys amserau teithio, oediadau amser a hinsawdd
8 mathau o gynlluniau wrth gefn sy'n gallu bodoli, a sut i ganiatáu ar gyfer y rhain wrth amserlennu
9 ffactorau y dylid eu cynnwys mewn cynlluniau ac amserlenni
10 pwy ddylai dderbyn copïau o'r amserlenni a phryd
11 y mathau o anawsterau a allai godi wrth weithredu cynlluniau, a sut gellid datrys y rhain
12 pwy mae angen eu hysbysu am newidiadau i'r amserlen
13 pwysigrwydd ffeil y digwyddiad a sut i gyfrannu at ei chreu a'i chynnal