Derbyn, gosod a datgysylltu offer ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â derbyn, gosod a datgysylltu offer ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae disgwyl i chi baratoi'r ardal ar gyfer llwytho nwyddau, deunyddiau ac offer i mewn ac allan, ei osod a'i ddatgysylltu.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â derbyn, gosod a datgysylltu offer ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy sy'n darparu manylion yr offer sydd i'w lwytho i mewn ac allan
2 dweud wrth bobl briodol pan nad oes digon o le storio ar gyfer y cludiadau a ddisgwylir
3 sicrhau bod yr ardal llwytho i mewn ac allan yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag rhwystrau a pheryglon
4 sicrhau bod offer trin a thrafod priodol ar gael a'i fod mewn cyflwr gweithio da
5 sicrhau bod yr holl ddogfennaeth yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfoes
6 gwirio bod cynnwys cludiadau'n unol â'r disgwyl
7 cymryd camau gweithredu priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol er mwyn ymdrin ag anghysonderau mewn cludiadau
8 defnyddio offer a thechnegau trin a thrafod sy'n briodol ar gyfer yr offer yn unol â gofynion cyfreithiol
9 trin a thrafod nwyddau, deunyddiau ac offer heb achosi difrod iddynt
10 gosod a datgysylltu offer sydd o fewn eich cylch gwaith a'ch galluoedd, yn unol â gofynion
11 gosod a datgysylltu offer yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 pwysigrwydd llwytho offer i mewn a datgymalu, llwytho allan, cludo a storio offer ar ôl sioe mewn modd effeithlon
2 sut i gyrchu a dehongli gwybodaeth er mwyn pennu'r nwyddau, y deunyddiau a'r offer sydd i'w lwytho i mewn neu ei lwytho allan
3 gweithdrefnau'n ymwneud â derbyn nwyddau a deunyddiau
4 arferion da o ran cadw tŷ a chanlyniadau peidio â'u cyflawni
5 pam mae dogfennaeth gywir a chyflawn yn bwysig, a'r canlyniadau posibl o beidio â'i chwblhau'n gywir
6 yr offer trin a thrafod angenrheidiol a sut i'w gyrchu
7 diffygion a allai godi gydag offer codi a thrin a thrafod, a pha gamau gweithredu i'w cymryd mewn ymateb iddynt
8 pam mae'n bwysig trin a thrafod nwyddau'n ddiogel
9 ble dylid llwytho offer i mewn, ac allan, a'i storio a'i osod
10 ble i gyrchu cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd ar gyfer gosod a datgysylltu offer
11 gofynion prosiect neu ddigwyddiad o ran gosod a lleoli offer
12 y broses gyfathrebu o fewn y sefydliad a sut i'w defnyddio
13 pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a goblygiadau peidio â chyfathrebu'n effeithiol