Cyfrannu at baratoi contractau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn cynnwys sefyllfaoedd lle byddwch chi'n darparu cymorth i gydweithwyr wrth lunio a chynnal contractau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Byddwch yn cadw cofnodion o'r cytundebau a luniwyd, yn paratoi drafftiau ac yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw'n gyfoes.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chynorthwyo wrth baratoi contractau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cadw cofnodion cywir o ddeilliannau cyd-drafodaethau ar gyfer bargeinion a chytundebau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2 dod â chynseiliau a chytundebau ffurf safonol i sylw pobl briodol pan fydd yn berthnasol
3 paratoi contractau drafft yn unol â chytundebau a wneir
4 cyfathrebu gydag artistiaid a chyhoeddwyr er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar gyfer contractau'n gywir ac yn gyfoes
5 briffio cydweithwyr priodol yn gyson am newidiadau a diweddariadau i gontractau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 sut caiff contractau cymhleth eu drafftio a'u llunio
2 cynnwys contractau masnachol
3 diben contractau a sut cânt eu defnyddio yn eich diwydiant
4 pwysigrwydd bargeinion, cytundebau, contrâu ac atodiadau
5 y math o wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn contract gan gynnwys contrâu ac atodiadau
6 eich trefniadau sefydliadol ar gyfer llunio contractau
7 sut i gofnodi canlyniadau cyd-drafodaethau
8 cynseiliau a chytundebau ffurf safonol
9 trwyddedau a thaliadau PRS