Cael hyd i ddeunyddiau, offer, eitemau a gwasanaethau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chael hyd i ddeunyddiau, eitemau, offer neu wasanaethau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Gallai fod angen deunyddiau, eitemau, offer a gwasanaethau ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau a gallent gynnwys eitemau hyrwyddo gan noddwyr. Gall y cyflenwadau fod yn rhai sydd wedi'u prynu, eu llogi, eu benthyg neu eu rhoi. Bydd gan eich sefydliad restr o gyflenwyr eisoes; bydd gofyn i chi gysylltu â nhw i baru argaeledd offer, eitemau, deunyddiau neu wasanaethau ag anghenion y sefydliad. Er y bydd o gymorth i chi fod yn ymwybodol o ddyraniad y gyllideb ar gyfer offer, eitemau a deunyddiau, nid chi fydd yn gyfrifol am y gyllideb hon nac am wneud penderfyniadau terfynol ynghylch cyflenwyr. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol arnoch i gyfathrebu eich anghenion yn glir ac yn gywir.
Mae'r Safon ar gyfer unrhyw un sy'n cael hyd i ddeunyddiau, eitemau, offer neu wasanaethau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cael hyd i wybodaeth fanwl am y cyflenwadau sy'n ofynnol a'r gyllideb sydd ar gael gan bobl berthnasol
2 sicrhau bydd cyflenwadau'n cydymffurfio â rheoliadau tân a materion diogelwch perthnasol eraill
3 adnabod cyflenwyr sy'n gallu darparu cyflenwadau o fewn gofynion cost, ansawdd, nifer, math, maint a'r amserlen gyflawni
4 cyflwyno argymhellion ynghylch cyflenwyr i bobl briodol yn y sefydliad
5 cyflwyno archebion am gyflenwadau yn unol â chyfarwyddiadau gan bobl briodol
6 cytuno gyda chyflenwyr delerau ac amodau ar gyfer cyflenwi a dychwelyd deunyddiau, eitemau ac offer sy'n dderbyniol i'ch sefydliad
7 cyhoeddi contractau i sicrhau cyflenwadau
8 cadw cofnodion cywir o archebion, cyflenwadau a chostau yn unol â phrosesau sefydliadol
9 gwirio gyda phobl briodol bod gan eich sefydliad yr holl drwyddedau, caniatadau a chyfleusterau perthnasol ar gyfer prynu, cludo, storio a defnyddio eitemau peryglus
10 monitro ansawdd cyflenwadau yn erbyn telerau ac amodau cytunedig, gan ddatrys unrhyw broblemau wrth iddynt godi
11 cyfeirio problemau na allwch eu datrys i bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i gael hyd i gyflenwadau
2 i bwy bydd angen siarad er mwyn cael hyd i restr gynhwysfawr a manwl o'r cyflenwadau gofynnol
3 gwybodaeth yn gysylltiedig â rheoliadau tân a materion diogelwch eraill
4 sut i adnabod cyflenwyr sy'n gallu cyflenwi'r eitemau dethol a'r ffurf ar gyfer cyflwyno manylion am gyflenwyr gan gynnwys y rhesymau dros eich argymhellion
5 telerau ac amodau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau, deunyddiau, eitemau ac offer, gan gynnwys, pan fydd yn berthnasol, y dyddiad a'r cyflwr dychwelyd sy'n dderbyniol i'ch sefydliad
6 sut gellir rhoi cydnabyddiaeth i'r rhai sy'n rhoi benthyg neu'n cael benthyg eitemau gan gynnwys unrhyw destun a ddefnyddir yn y rhaglen
7 ble i gael hyd i wybodaeth ynghylch rhoddion ac eitemau hyrwyddo gan noddwyr
8 yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chadw am gyflenwadau
9 y meini prawf i'w hystyried wrth werthuso cyflenwyr a llogwyr gan gynnwys yr ansawdd gofynnol; nifer; math; cost; amserlen dosbarthu; a'r rheoliadau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol
10 sut i gyfathrebu gyda chyflenwyr
11 problemau a allai godi o ran argaeledd, nifer neu ansawdd a ffyrdd i'w datrys
12 pwy i'w hysbysu pan na allwch ddod i gytundeb boddhaol