Cefnogi'r broses o ymgeisio am drwyddedau, hawlenni a chaniatadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu cefnogaeth i'r bobl sy'n ymgeisio am drwyddedau, hawlenni neu ganiatadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Eich rôl chi fydd adnabod y rhai y dylid cysylltu â nhw mewn perthynas â thrwyddedau, hawlenni a chaniatadau, coladu gwybodaeth i ategu ceisiadau a chael gwybod am oriau agor a thrwyddedu clybiau a lleoliadau lleol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi'r broses ymgeisio ar gyfer trwyddedau, hawlenni neu ganiatadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 nodi gwybodaeth am seilwaith a gosodiad safle sy'n ofynnol i ategu ceisiadau
2 cael hyd i wybodaeth ddibynadwy am niferoedd y bobl y disgwylir iddynt fynychu prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw
3 pennu amserau agor a thrwyddedu lleoliadau o fewn pellter penodol i ardaloedd digwyddiadau
4 cael hyd i gynlluniau diogeledd, meddygol a llesiant gan bobl berthnasol sy'n ddigon manwl i ategu ceisiadau
5 cysylltu gyda phobl briodol mewn awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a'r gymuned leol pan fydd yn briodol i gasglu gwybodaeth i ategu ceisiadau
6 coladu gwybodaeth ofynnol o ffynonellau perthnasol i ategu'r broses ymgeisio
7 cynhyrchu gwybodaeth mewn ffurfiau priodol ac yn unol â therfynau amser cytunedig i ategu ceisiadau
8 cyflwyno gwybodaeth ategol ar gyfer ceisiadau i gydweithwyr priodol yn unol â therfynau amser disgwyliedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 y gwahanol fathau o drwyddedau, hawlenni a chaniatadau a allai fod yn ofynnol gan gynnwys caniatâd cynllunio a chau ffyrdd
2 perthnasedd cyfreithiau presennol ac amcanion ar gyfer prosiectau, hawlenni a chaniatadau ar gyfer prosiectau celfyddydau, digwyddiadau byw a pherfformiadau
3 pwysigrwydd meddu ar wybodaeth ategol ddigonol ar gyfer ceisiadau
4 y math o wybodaeth a allai fod yn ofynnol i ategu ceisiadau am drwyddedau, hawlenni a chaniatadau gan gynnwys niferoedd y bobl y disgwylir iddynt fynychu, cynlluniau diogeledd, meddygol a llesiant, gwybodaeth am leoliad y safle, ei osodiad a'i seilwaith ac oriau agor a threfniadau trwyddedu ar gyfer lleoliadau lleol eraill
5 ble i gael gwybodaeth am niferoedd y bobl y disgwylir iddynt fynychu
6 sut i ddehongli cynlluniau safle, lluniau a manylebau i nodi gwybodaeth o ran gosodiad a seilwaith safle
7 diben, cynnwys a lefel y manylion sy'n ofynnol ar gyfer cynlluniau diogeledd, meddygol a llesiant
8 pa mor agos mae angen i leoliadau lleol fod i leoliad y digwyddiad i fod yn berthnasol i geisiadau
9 pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau awdurdodau lleol
10 pryd mae'n briodol cysylltu ag awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a'r gymuned leol
11 sut i gyflwyno gwybodaeth i ategu ceisiadau am drwyddedau, hawlenni a chaniatadau
12 i bwy mae cyflwyno gwybodaeth i ategu ceisiadau a phryd mae'n ofynnol