Argymell lleoliadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag argymell lleoliadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau. Gellid adnabod lleoliadau ar gyfer prosiect neu ddigwyddiad sydd wedi'i gynllunio neu ar gyfer adnabod lleoliadau i gynnal prosiect neu ddigwyddiad sy'n bodoli eisoes.
Mae'n golygu adnabod gofynion lleoliad ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau, yn ogystal â chwilota ac argymell lleoliadau priodol. Mae'n ymwneud â meddu ar wybodaeth dda o leoliadau posibl, yn ogystal â'r gallu i ymgymryd ag ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth perthnasol. Mae'n golygu deall anghenion y gynulleidfa darged ac asesu lleoliadau posibl o ran eu haddasrwydd a'u cost, gan gymryd amrywiol ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys gofynion tîm rheoli'r digwyddiad. Mae'n ymwneud ag argymell lleoliadau posibl sy'n bodloni gofynion y digwyddiad.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n argymell lleoliadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 gwirio'ch dealltwriaeth o nifer, math a threfn lleoliadau a'r meini prawf mae'n rhaid iddynt eu bodloni gyda phobl berthnasol
2 ymchwilio i briodoldeb lleoliadau gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
3 trefnu astudiaethau dichonolrwydd o leoliadau anhysbys sy'n pennu eu cydnawsedd â gofynion
4 cysylltu ag awdurdodau perthnasol i ganfod argaeledd lleoliadau
5 cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy am y costau sy'n gysylltiedig â lleoliadau, gan gynnwys unrhyw ganiatadau a thrwyddedau gofynnol
6 cofnodi gwybodaeth am leoliadau mewn digon o fanylder i'ch galluogi i wneud asesiadau rhesymedig
7 cofnodi ystyriaethau arbennig, problemau ac anawsterau sy'n gysylltiedig â lleoliadau mewn systemau a ffurfiau sefydliadol cymeradwy
8 argymell lleoliadau sy'n cydbwyso anghenion cynhyrchu yn erbyn cyfyngiadau ariannol a logistaidd
9 argymell trefniadau ymarferol wrth gefn sy'n caniatáu os nad yw lleoliadau ar gael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 gofynion lleoliadau gan gynnwys anghenion y gynulleidfa darged
2 y ffiniau cyllidebol rydych yn gweithio oddi mewn iddynt
3 ffynonellau gwybodaeth am leoliadau a sut i'w cyrchu
4 sut i gymryd nodiadau manwl a thynnu lluniau neu fideo clir a disgrifiadol o leoliadau i gefnogi gwaith asesu a chynllunio
5 sut i ganfod pwy yw perchnogion lleoliadau
6 sut i ddod i gysylltiad â phobl berthnasol mewn awdurdodau lleol
7 y mathau o sefydliadau ac unigolion y mae angen caniatadau ganddynt
8 gwahanol fathau o drwyddedau y gallai fod eu hangen pan yn defnyddio lleoliadau penodol
9 gofynion tebygol pob adran sy'n gysylltiedig o ran mynediad, allanfeydd a ffynonellau pŵer
10 mathau o ystyriaethau arbennig, problemau ac anawsterau gan gynnwys materion hinsawdd, ffisegol, amgylcheddol, cyfreithiol ac iechyd a diogelwch a allai gyfyngu ar fynediad a goblygiadau moesegol
11 sut i adnabod y ffactorau cyfreithiol neu foesegol sy'n effeithio ar leoliadau
12 y ffactorau a allai olygu nad yw rhai lleoliadau ar gael gan gynnwys tywydd garw ar gyfer lleoliadau awyr agored
13 sut i gyflwyno'ch argymhellion