Gweithio gyda thimau diogeledd i sicrhau diogelwch a diogeledd yn ystod digwyddiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â’ch gwaith chi yn cefnogi'r rhai sy'n gweithredu diogelwch a diogeledd yn ystod digwyddiadau. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mewn lleoliadau sefydlog bydd sefydliadau'n cyflogi eu tîm diogeledd eu hunain, neu fel arall gellid contractio'r gwaith diogeledd i sefydliad diogeledd. Bydd gofyn i chi gysylltu â'r rhai sy'n ymgymryd â'r gweithgareddau diogelwch a diogeledd mewn perthynas â materion a nodir drwy asesiad risg a chyfarwyddiadau arbennig yn ymwneud â phethau fel diogelu offer. Bydd gofyn hefyd i chi gynorthwyo gyda lleoli arwyddion.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda thimau neu sefydliadau diogeledd er mwyn sicrhau diogelwch a diogeledd yn ystod digwyddiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyfnewid yr holl wybodaeth berthnasol gyda phobl sy'n ymgymryd â gweithgareddau diogelwch a diogeledd er mwyn sicrhau bod digwyddiadau'n ddiogel
2. cyflawni asesiadau risg i adnabod bygythiadau a risgiau diogeledd posibl yn unol â deddfwriaeth ac arweiniad presennol
3. adrodd am fygythiadau a risgiau diogeledd posibl wrth y bobl briodol yn y tîm/sefydliad diogeledd ar adegau priodol
4. cael gwybodaeth gywir o ffynonellau dibynadwy am unrhyw drefniadau, gofynion neu gyfarwyddiadau diogeledd arbennig
5. cyfathrebu cyfarwyddiadau, gofynion neu drefniadau arbennig i bobl briodol yn y tîm/sefydliad diogeledd ar adegau priodol
6. lleoli hysbysiadau diogeledd gweledol a ddangosir ar gynlluniau perthnasol
7. gwerthuso gosodiad offer diogelwch a hysbysiadau ar gyfer digwyddiadau yn unol â deddfwriaeth bresennol
8. gwerthuso diogeledd ar gyfer digwyddiadau ar sail asesiad risg ac amcanion trwyddedu
9. asesu'r posibilrwydd y bydd trosedd ac anhrefn mewn digwyddiadau a chyflwyno eich argymhellion i’r bobl briodol ar adegau priodol
10. dilyn argymhellion cytunedig a fydd yn lleihau'r posibilrwydd y bydd trosedd ac anhrefn mewn digwyddiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y bobl sy'n gysylltiedig a'r gadwyn reoli yn y tîm/sefydliad diogeledd rydych yn gweithio gydag ef
2. sut i gyflawni asesiadau risg o fygythiadau diogeledd posibl
3. gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer ymdrin â diogeledd mewn digwyddiadau
4. i bwy dylech gyfathrebu er mwyn adnabod gofynion arbennig gan yr heddlu a'r awdurdodau trwyddedu
5. o ble i gael gwybodaeth am gyfarwyddiadau arbennig gan gynnwys y rhai yn ymwneud â diogelu offer
6. gweithdrefnau'ch sefydliad ar gyfer cyflawni gofynion/cyfarwyddiadau arbennig
7. perthnasedd a goblygiadau deddfwriaeth yn ymwneud â diogeledd fel y mae'n berthnasol i ddigwyddiadau
8. sut i adnabod lleoliad arwyddion gan weithio oddi ar gynllun
9. y mathau o yswiriant sy'n ofynnol ar gyfer digwyddiadau
10. y mathau o bethau a allai leihau'r posibilrwydd o drosedd neu anhrefn gan gynnwys trafod aildrefnu staff diogeledd gyda'r rhai sy'n gyfrifol, cael hyd i offer, ychwanegu arwyddion ychwanegol, cael mynediad i ardaloedd nad ydynt yn agored i'r cyhoedd