Cynllunio datrysiadau i sicrhau mynediad i ystod eang o bobl i wasanaethau'ch sefydliad
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio datrysiadau sy'n sicrhau mynediad i wahanol grwpiau o bobl i wasanaethau'ch sefydliad. Mae'n cynnwys mynediad gan bobl o gefndiroedd amrywiol a darparu addasiadau ar gyfer pobl ag anabledd corfforol, anabledd dysgu neu anhwylder datblygiadol.
Bwriedir iddo fynd y tu hwnt i gydymffurfio â deddfwriaeth gydraddoldeb a symud tuag at sefyllfa lle mae ymwybyddiaeth yn eich ardal o ddatrysiadau y gellir eu rhoi ar waith fel y gall ystod ehangach o bobl gael mynediad i wasanaethau'ch sefydliad.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â chynllunio datrysiadau er mwyn sicrhau mynediad i ystod eang o bobl i wasanaethau sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i adnabod arfer a thechnoleg sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r amlwg a allai wella mynediad i wahanol grwpiau
2 gwerthuso llwyddiant trefniadau mynediad presennol a blaenorol a ddefnyddiwyd gan eich sefydliad yn erbyn nodau ac amcanion y gwasanaethau a gynigir
3 adnabod datrysiadau mynediad sy'n gwella gwasanaethau eich sefydliad
4 ymgynghori â phobl berthnasol i gynllunio sut gellir rhoi datrysiadau mynediad yn eu lle
5 dogfennu datrysiadau mynediad yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
6 sicrhau bod darpariaeth o ran mynediad yn cael ei chyfathrebu i gydweithwyr perthnasol
7 sicrhau bod darpariaeth o ran mynediad yn cael ei chyfathrebu i grwpiau perthnasol gan ddefnyddio iaith a thechnoleg briodol
8 cytuno ar feini prawf gyda phobl berthnasol er mwyn barnu llwyddiant datrysiadau mynediad
9 adolygu, monitro a gwerthuso datrysiadau mynediad yn erbyn meini prawf cytunedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth gyfredol
2 egwyddorion cynhwysiant a'r arfer cynhwysol sy'n berthnasol i'ch sefydliad
3 technolegau presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg y gellir eu defnyddio i gynyddu mynediad ar gyfer gwahanol grwpiau
4 arfer presennol ac arfer sy'n dod i'r amlwg ym maes addasiadau y gellir eu gwneud i'r ddarpariaeth i alluogi mynediad i wahanol grwpiau
5 materion sy'n codi yn sgil diffyg darpariaeth mynediad i wasanaethau'ch sefydliad
6 sut mae amrywiaeth yn effeithio'n gadarnhaol ar grwpiau a gweithgareddau
7 materion sy'n berthnasol i ymwybyddiaeth amrywiaeth a chydraddoldeb
8 sut a ble i gyrchu canllawiau perthnasol yn ymwneud â mynediad
9 sut i ganfod darpariaeth mynediad sy’n briodol ac yn effeithiol
10 pwy ddylai wybod am ddarpariaeth mynediad a sut i gyfathrebu â nhw
11 iaith a thechnoleg briodol ar gyfer cyfathrebu â phobl o wahanol grwpiau a chefndiroedd amrywiol