Sicrhau bod prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw yn cydymffurfio'n gyfreithiol, yn foesegol ac yn gymdeithasol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â sicrhau bod prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw yn cydymffurfio'n gyfreithiol, yn foesegol ac yn gymdeithasol. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau. Mae hyn yn cynnwys datblygu polisïau a gweithdrefnau i fodloni gofynion rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol, monitro'u defnydd a'u heffeithiolrwydd a llunio adroddiadau ac argymhellion am unrhyw achos o beidio â chydymffurfio.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â sicrhau bod prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw yn cydymffurfio'n gyfreithiol, yn foesegol ac yn gymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 monitro effaith gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol ar eich maes gwaith yn barhaus
2 datblygu a chynnal polisïau a gweithdrefnau sy'n sicrhau bod eich sefydliad yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion moesegol a chymdeithasol a thelerau ac amodau yswiriant
3 cyfathrebu eich polisïau, eich gweithdrefnau a'ch gwerthoedd, a phwysigrwydd eu rhoi ar waith, i bobl berthnasol
4 defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i fonitro sut caiff polisïau a gweithdrefnau eu rhoi ar waith, gan nodi rhesymau pan nad yw gofynion yn cael eu bodloni
5 gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i bolisïau a gweithdrefnau i bobl briodol
6 adolygu a diwygio polisïau a gweithdrefnau ar adegau priodol
7 darparu adroddiadau llawn am fethiannau i fodloni gofynion i randdeiliaid perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 pwysigrwydd ymagwedd foesegol sydd wedi'i seilio ar werthoedd tuag at lywodraethiant a sut i roi hyn ar waith
2 yr effaith mae eich sefydliad a'i brosiectau a'i ddigwyddiadau yn ei chael ar ansawdd bywyd pobl leol
3 pam mae'n bwysig gweithredu'n gyfrifol mewn perthynas â staff, buddsoddwyr a'r cymunedau rydych yn gweithio ynddynt a chyda nhw
4 gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli'r ffordd caiff sefydliadau eu rhedeg
5 gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol yn eich sector gan gynnwys y rhai hynny sy'n ymwneud â hawlfraint, eiddo deallusol, diogelu data a thrwyddedu
6 pryderon a disgwyliadau cymdeithasol presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i'ch sector
7 ffyrdd mae sefydliadau eraill yn ymdrin â phryderon a disgwyliadau cymdeithasol presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg
8 telerau ac amodau eich yswiriant
9 sut i ddatblygu, ymgynghori ac adolygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfiaeth gyfreithiol, foesegol a chymdeithasol
10 pwy i'w cynnwys wrth adolygu ac ymgynghori ynghylch datblygu polisi a newidiadau iddo
11 y bobl a'r rhanddeiliaid mae angen i chi gyfathrebu â nhw
12 sut i gyfathrebu polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd i bobl fel bod ganddynt ddealltwriaeth glir ohonynt
13 gweithdrefnau i'w dilyn os nad yw eich sefydliad yn bodloni gofynion cyfreithiol, moesegol neu gymdeithasol
14 diwylliant a gwerthoedd eich sefydliad
15 polisïau a gweithdrefnau sy'n sicrhau bod pobl yn bodloni gofynion
16 y prosesau ar gyfer cynnal effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau perthnasol