Sicrhau cyllid a nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â sicrhau cyllid neu nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Bydd disgwyl i chi adnabod ffrydiau cyllid neu gyfleoedd nawdd priodol a sicrhau bod ceisiadau am gyllid neu nawdd yn dangos eich cais yn y ffordd fwyaf manteisiol i chi. Bydd angen sgiliau cyflwyno, rhwydweithio, rhifedd, TG a chyfathrebu da arnoch chi. Bydd angen hefyd i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau cyfredol a cheisio cyfleoedd cyllid yn rhagweithiol.
Mae'r Safon hon ar gyfer
unrhyw un sy'n gysylltiedig â sicrhau cyllid ar gyfer digwyddiadau byw
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 gwerthuso ffynonellau cyllid neu ffrydiau nawdd posibl gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
2 gwerthuso ffrydiau cyllid neu nawdd yn erbyn gofynion a chyfyngiadau sefydliadol
3 paratoi a chyflwyno ceisiadau am gyllid neu nawdd sy'n dangos sut mae'r sefydliad, prosiectau neu ddigwyddiadau'n bodloni meini prawf cyllido
4 cyflwyno gwybodaeth i gyllidwyr neu noddwyr posibl mewn ffyrdd sy'n dangos manteision prosiectau neu ddigwyddiadau a'ch sefydliad
5 cyfranogi mewn rhwydweithiau sy'n agor deialog gyda chyllidwyr neu noddwyr posibl ar adegau priodol
6 gwerthuso effaith gweithgarwch rhwydweithio ar lwyddiant ceisiadau am gyllid neu nawdd yn barhaus
7 gwerthuso gweithgarwch cyllid neu nawdd yn barhaus
8 darparu gwybodaeth ar adegau priodol sy'n dangos manteision eu cyllid neu eu nawdd i gyllidwyr neu noddwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 polisi a thueddiadau cyfredol mewn perthynas â chyfleoedd cyllid neu nawdd ac arfer
2 materion lleol a chenedlaethol a allai effeithio ar gyfleoedd cyllid neu nawdd
3 manteision amrywiaeth mewn ffrydiau incwm
4 sianeli cyfathrebu rhwng eich sefydliad chi a sefydliadau cyllid neu nawdd, cwmnïau ac unigolion
5 y mathau o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau byw sy'n debygol o ddenu cyllid
6 ffrydiau cyllid neu gyfleoedd nawdd posibl yn y sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, preifat, y loteri, sefydliadau ymddiriedolaethol
7 sut i ddatblygu strategaeth ar gyfer cysylltu â ffrydiau cyllid neu gyfleoedd nawdd
8 pryd mae'n briodol awgrymu cyfleoedd i gyrff cyllid neu nawdd ynghylch meysydd gwaith newydd
9 pam mae'n bwysig datblygu a chynnal bargeinion sy'n fanteisiol i'r ddwy ochr gyda noddwyr a sut i wneud hynny
10 amcanion, gofynion a chyfyngiadau sefydliadol ar gyfer pennu cymhwysedd incwm a chyllid posibl
11 sut i ddehongli meini prawf cyllido a'u perthnasedd i'ch sefydliad
12 sut i baratoi cyllideb incwm neu wariant
13 pam mae'n bwysig sefydlu perthnasau gwaith da a chadw enw da
14 rhwydweithiau priodol a allai wella ceisiadau am gyllid yn y dyfodol a sut i'w cyrchu
15 sut i lunio cynigion
16 sut i strwythuro cyflwyniad
17 sut i gyflwyno gwybodaeth ar lefel a chyflymder sy'n briodol i'r gynulleidfa
18 sut i werthuso effaith gwahanol fargeinion cyllid a nawdd ar amcanion sefydliadol