Paratoi gwybodaeth i ategu ceisiadau am gyllid a nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi dogfennau a gwybodaeth arall sy'n ofynnol i ategu ceisiadau am gyllid neu nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Mae hyn yn golygu llunio crynodebau sefydliadol a helpu i gyflwyno enghreifftiau o waith a gwblhawyd. Bydd angen sgiliau TG da arnoch chi i lanlwytho ffeiliau cyfryngau a pharatoi dogfennau a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol ar gyfer rhwydweithio.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â pharatoi gwybodaeth i ategu ceisiadau am gyllid neu nawdd ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw.
**
**
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 defnyddio ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy i gasglu gwybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer ceisiadau am gyllid neu nawdd
2 cyfrannu at y gwaith o baratoi crynodebau o waith y sefydliad a fydd yn ategu ceisiadau
3 casglu gwybodaeth sy'n dangos enghreifftiau o weithgareddau neu ddigwyddiadau a gwblhawyd yn y gorffennol gan y sefydliad a fydd yn darparu tystiolaeth ar gyfer ceisiadau am gyllid
4 paratoi a lanlwytho dogfennau a ffeiliau cyfryngau i ategu ceisiadau sy'n bodloni gofynion o ran maint ac ansawdd
5 cyfathrebu gyda sefydliadau cyllido gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu cytunedig
6 cyfathrebu gwybodaeth ac ymateb i ymholiadau gyda chanolwyr a chefnogwyr posibl a rhai go iawn yn ddi-oed, gan gyfeirio at eraill pan fydd mater y tu hwnt i'ch gwybodaeth neu'ch arbenigedd
7 cyfrannu syniadau ynghylch anghenion cyrff cyllido neu gomisiynwyr a sut gellir eu bodloni i bobl berthnasol
8 awgrymu newidiadau i gynigion am gyllid a fydd yn gwella’r modd maent yn bodloni'r brîff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 ffynonellau gwybodaeth am geisiadau am gyllid neu nawdd
2 polisi a thueddiadau cyfredol mewn perthynas â chyfleoedd cyllido ac arfer
3 materion lleol a chenedlaethol a allai effeithio ar gyfleoedd cyllido
4 mathau o brosiectau sy'n debygol o ddenu gwahanol fathau o gyllid
5 sut i baratoi crynodebau sefydliadol
6 yr ystod o ddeunyddiau hyrwyddo sydd ar gael am weithgareddau neu ddigwyddiadau y gellir eu defnyddio i ategu ceisiadau
7 ble caiff gwybodaeth am waith a gwblhawyd ei storio a sut i gael hyd iddi
8 gofynion o ran maint ac ansawdd ar gyfer ffeiliau cyfryngau a dogfennau eraill
9 sut i baratoi a lanlwytho dogfennau a ffeiliau cyfryngau
10 sut gall eich dull cyfathrebu a'ch ymatebolrwydd i ganolwyr a chefnogwyr helpu i gynnal a chynyddu eu niferoedd
11 gwahanol fathau o gyrff cyllido a chomisiynwyr a ble i gael hyd i wybodaeth am y briff a'u meini prawf a'u hanghenion
12 sut i ymchwilio a chyflwyno'r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer drafft cyntaf adrannau o geisiadau am gyllid
13 sut i baratoi a chyflwyno deunyddiau i sefydliadau cyllido yn unol â'u gofynion
14 sut i baratoi a chyflwyno deunyddiau i sefydliadau cyllido
15 sianeli cyfathrebu rhwng eich sefydliad chi a sefydliadau cyllido
16 pam mae'n bwysig sefydlu perthnasau gwaith da a chadw enw da