CCSAPLE1 Ymchwilio gwybodaeth i ategu syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau a digwyddiadau byw. Gallent fod yn y sector celfyddydau cymunedol neu'r sector masnachol a gallent gynnwys rhaglenni gweithgarwch, arddangosfeydd a gwyliau.
Bydd angen i chi gasglu a chofnodi gwybodaeth yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol a chymhwyso sgiliau dadansoddi i ddata perthnasol er mwyn cynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir. Bydd disgwyl i chi grynhoi'r wybodaeth yn glir a'i chyflwyno mewn modd clir a chywir ar ffurf berthnasol i bobl briodol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i syniadau ar gyfer prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau er mwyn ymgysylltu â chynulleidfa darged.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy lle mae digon o fanylion at ddiben defnyddio'r wybodaeth honno
2 cofnodi a storio gwybodaeth a gasglwyd yn unol â systemau a gweithdrefnau sefydliadol
3 dethol gwybodaeth berthnasol, ddilys a dibynadwy i'w dadansoddi
4 cymhwyso technegau dadansoddi a gwerthuso sy'n briodol at ddiben yr ymchwil
5 coladu, cofnodi a dadansoddi'r wybodaeth i gynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir
6 gwirio cywirdeb y dadansoddi gan ddefnyddio technegau priodol, gan wneud addasiadau pan fydd angen
7 cynhyrchu crynodebau cyflawn a chywir o ymchwil sy'n berthnasol at y diben bwriadedig
8 darparu canlyniadau ymchwil mewn arddull sy'n briodol i allu, gwybodaeth a dealltwriaeth y bobl sy'n eu derbyn
9 rhoi cyngor ynghylch canlyniadau ymchwil sy'n gyson â pholisi a gweithdrefnau’r sefydliad a chyfyngiadau adnoddau
10 ceisio adborth gan bobl berthnasol am ganlyniadau ymchwil a ddarperir gennych, gan ddefnyddio'r adborth hwn i wella ffyrdd y byddwch yn darparu canlyniadau yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 dulliau a thechnegau ymchwilio perthnasol
2 ffynonellau perthnasol yn y sector rydych yn gweithio ynddo
3 ffynonellau penodol ar gyfer eich sefydliad neu'ch prosiect
4 sut i werthuso ffynonellau gwybodaeth o ran eu dibynadwyedd
5 systemau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
6 manylion yr wybodaeth sy'n ofynnol i wneud penderfyniadau
7 sut i goladu a chofnodi'r wybodaeth er mwyn cynhyrchu canlyniadau a chasgliadau cywir
8 technegau i wirio cywirdeb dadansoddi a pham mae'n bwysig gwneud hynny
9 sut i grynhoi gwybodaeth
10 arddulliau cyfathrebu sy'n briodol i allu, gwybodaeth a dealltwriaeth y bobl rydych yn cyfathrebu â nhw
11 polisïau, gweithdrefnau a chyfyngiadau adnoddau'r sefydliad
12 dulliau ar gyfer casglu adborth gan y rhai sy'n ei dderbyn
13 sut i ddadansoddi adborth i wella arfer yn y dyfodol