Cyfrannu at ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â’ch rôl i sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn amgylchedd diogel a chefnogol lle nad oes neb yn aflonyddu arnynt, nac yn eu bwlio, eu bygwth nac yn eu cam-drin mewn unrhyw fodd arall. Efallai mai cyfranogwyr eraill, arweinwyr, hwyluswyr, rhieni neu oedolion eraill sy’n bresennol yn ystod gweithgareddau a fydd yn gyfrifol am y gamdriniaeth fel hyn, a gall gael effaith negyddol iawn ar hyder, hunan-barch ac agwedd yr unigolyn at y gweithgarwch. Sylweddolir fod angen cyswllt priodol ar brydiau er mwyn cynnal dilysrwydd y gweithgarwch. Rhaid i chi sicrhau hefyd nad yw eich ymddygiad yn cael effaith negyddol nac yn arwain at gyhuddiadau o gam-drin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sicrhau eich bod chi a’r bobl sy’n gweithio gyda chi yn ymddwyn yn briodol â phobl ifanc agored i niwed
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pam ei bod yn bwysig diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed a deall yr effaith y gall camdriniaeth ei chael ar eu lles a’u datblygiad
gofynion sylfaenol deddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â diogelu plant a’u goblygiadau ar gyfer eich rôl
gofynion a gweithdrefnau eich sefydliad o ran amddiffyn plentyn fel y maent yn berthnasol i’ch rôl
egwyddorion y ddyletswydd gofal mewn perthynas â phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
pwysigrwydd ymddwyn yn briodol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed er mwyn eu diogelu, a’ch amddiffyn chi rhag cyhuddiadau posibl o gam-drin
sut mae plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn cael profiad o weithgareddau ac yn rhyngweithio â phobl eraill
pam ei bod yn bwysig cyflwyno esiampl gadarnhaol i blant, pobl ifanc ac oedolion agored a beth sy’n esiampl gadarnhaol
sut mae datblygu perthynas o ymddiriedaeth a pharch ar y naill ochr a’r llall gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed a pham mae hyn yn bwysig
sut mae cyfathrebu â phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, gan ystyried eu hoedran a’u cyfnod datblygu a pham mae hyn yn bwysig
anawsterau cyfathrebu y gall fod gan rai plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
effaith iaith corff wrth gyfathrebu â phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed a sut mae defnyddio iaith corff mewn ffordd nad yw’n codi ofn ar bobl
pam ei bod yn bwysig hyrwyddo rhyngweithio cadarnhaol ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
sut mae rhoi adborth adeiladol a chadarnhaol i blant, pobl ifanc ac oedolion agored
pam ei bod yn bwysig bod yn sensitif i gyfnod datblygu’r plant, y bobl ifanc a’r oedolion agored i niwed wrth gymryd camau yn erbyn ymddygiad
geiriau ac ymddygiad a allai olygu camdriniaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
y peryglon wrth i bobl eraill recordio plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn weledol
y gweithdrefnau y dylech eu dilyn wrth i chi asesu bod plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed mewn perygl o gael eu cam-drin
gweithdrefnau adrodd yn eich sefydliad ac yn allanol pan fyddwch chi wedi gweld rhywun yn cael ei gam-drin neu fod gennych bryderon am gamdriniaeth bosibl