Cyfrannu at gynhyrchu a dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch cael chi i gynorthwyo wrth gynhyrchu a dosbarthu deunydd a ddefnyddir i hyrwyddo prosiectau celfyddydau neu ddigwyddiadau byw. Bydd gofyn i chi gyfrannu at gynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd. Bydd angen i chi ddeall yr holl brosesau sy'n gysylltiedig â marchnata a hyrwyddo, ble mae cynhyrchu a dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd yn eistedd yn hyn o beth, a pham mae'n bwysig. Mae gofyn sgiliau cyfathrebu rhagorol i ddatblygu perthnasau gwaith cadarnhaol yn fewnol yn y sefydliad ac yn allanol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cyfrannu at gynhyrchu a dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 coladu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy ynghylch y gofynion ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd
2 nodi ffurfiau cyhoeddusrwydd amgen sy'n arloesol ac yn gost-effeithiol ac yn ateb gofynion cyhoeddusrwydd
3 cytuno adnoddau ac amserlenni sydd eu hangen i gynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd gyda phobl briodol
4 coladu gwybodaeth a deunydd sy'n ofynnol i greu deunydd cyhoeddusrwydd o ffynonellau priodol
5 cyflawni tasgau sydd wedi'u neilltuo i ddatblygu a dosbarthu e-daflenni a bwletinau newyddion yn unol â chyfarwyddiadau
6 cyfathrebu gyda dylunwyr, argraffwyr a chyhoeddwyr o dan gyfarwyddyd cydweithwyr priodol i sicrhau bod deunydd yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno’n unol â gofynion cytunedig
7 nodi gwallau neu hepgoriadau mewn proflenni yn erbyn disgwyliadau
8 ymgynghori â phobl briodol i adnabod dosbarthwyr priodol ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd
9 cyfathrebu gyda dosbarthwyr i sicrhau dosbarthiad deunydd cyhoeddusrwydd yn unol â gofynion cytunedig
10 cadw cofnodion clir, cywir a chyflawn o gysylltiadau gyda'r cyfryngau a gwybodaeth a roddir i'r cyfryngau ac a gafwyd wrthynt
11 hysbysu pobl briodol o broblemau neu anawsterau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldebau chi'ch hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 sut i gadw ar ben y tueddiadau presennol yn eich sector
2 sut i werthuso dulliau hyrwyddo yn ôl eu harloesedd a'u cost-effeithiolrwydd
3 dulliau a fforymau ar gyfer marchnata feirysol
4 gwybodaeth berthnasol am y gynulleidfa darged a phrofiad y cwsmer
5 gwahanol fathau o gyhoeddusrwydd gan gynnwys blogwyr, cysylltiadau cyhoeddus, rhoi anogaeth i gwsmeriaid presennol i gyflwyno cwsmeriaid newydd
6 sut i ddatblygu a dosbarthu e-daflenni a bwletinau newyddion
7 y mathau o wybodaeth a deunydd sy'n ofynnol ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd
8 sut i brawfddarllen deunyddiau
9 dulliau dosbarthu deunydd cyhoeddusrwydd
10 sut i gynnal ffeil digwyddiad a'r wybodaeth y dylid ei chadw ynddi
11 y mathau mwyaf effeithiol o hysbysebu ar gyfer mathau penodol o ddigwyddiadau byw
12 ffurfiau cyhoeddusrwydd amgen gan gynnwys marchnata feirysol
13 sut i gyfathrebu gyda phobl yn y sefydliad a’r tu allan
14 pwysigrwydd datblygu a chynnal perthnasau gwaith da
15 wrth bwy i adrodd problemau neu anawsterau