Rhoi gwybodaeth ar sut i uchafu incwm i gwsmeriaid

URN: ASTWA1
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Asset Skills
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu rhoi gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd am y mathau o geisiadau am fudd-daliadau lles sydd ar gael er mwyn uchafu incwm. Y rôl yw rhoi gwybodaeth sylfaenol, cynghori cwsmeriaid ar sut i wneud cais am gymorth, helpu gyda cheisiadau os bydd y cwsmer angen cymorth gyda TG neu gyda llythrennedd a chyfeirio cwsmeriaid at ganolfannau neu adrannau priodol sy'n darparu cyngor arbenigol.

Rydych yn debygol o weithio mewn canolfan gwasanaethau cwsmeriaid mewn awdurdod lleol neu sefydliad arall y sector cyhoeddus / trydydd sector a chi fydd y pwynt cysylltu cyntaf i gwsmeriaid.

Mae'r mathau o fudd-daliadau lles dan sylw yn yr uned hon yn cynnwys budd-daliadau nawdd cymdeithasol, budd-daliadau tai, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor, credydau treth, cronfeydd dewisol a chynlluniau lleol ar gyfer cymhorthdal incwm a chymorth o fath anariannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1  croesawu'r cwsmer gan ddefnyddio protocol y sefydliad
P2  canfod eu rhesymau dros fynd at eich sefydliad chi
P3  casglu gwybodaeth gefndir berthnasol mewn ffordd sensitif
P4  penderfynu ar eu cymhwysedd posibl i dderbyn budd-daliadau
P5  parchu cyfrinachedd a phreifatrwydd y cwsmer
P6  rhoi gwybodaeth berthnasol i'r cwsmer
P7  disgrifio ffyrdd priodol o uchafu incwm a chyllidebu
P8  esbonio'r broses ar gyfer gwneud cais, gan gynnwys yr amseriadau
P9  helpu'r cwsmer i wneud cais os bydd angen cymorth llythrennedd neu gymorth TG
P10  rhoi gwybod i'r cwsmer bod modd gwneud apeliadau
P11  cyfeirio'r cwsmer at wybodaeth ychwanegol, lle bo'n berthnasol
P12  cyfeirio'r cwsmer at asiantaethau priodol, os yw'n ofynnol
P13  cyfeirio'r cwsmer at gydweithwyr priodol mewn ffordd broffesiynol
P14  cofnodi gwybodaeth berthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​K1  prif egwyddorion y fframwaith deddfwriaethol cyfredol sy'n ymwneud â cheisiadau am fudd-daliadau, grantiau a gostyngiadau
K2  y gwahaniaeth rhwng
K2.1  ceisiadau sydd â phrawf moddion
K2.2  ceisiadau heb brawf moddion
K2.3  credydau treth
K3  ymhle i gael gafael ar wybodaeth ynglŷn â sut i uchafu incwm
K4  y trefnau apelio ar gyfer herio penderfyniadau ar geisiadau am fudd-daliadau lles
K5  y cymhwysedd posibl i dderbyn yr holl fudd-daliadau, grantiau a gostyngiadau a sut maen nhw'n gymwys i wahanol grwpiau o gwsmeriaid
K5.1  anabledd
K5.2  oed
K5.3  statws mewnfudo
K5.4  strwythur y cartref
K5.5  statws tai
K6  yr ystod o fudd-daliadau nad ydynt yn cael eu hawlio'n ddigonol ar hyn o bryd a pham nad yw pobl yn eu hawlio
K7  yr asiantaethau sy'n ymwneud â gweinyddu ceisiadau am fudd-daliadau lles ar lefel genedlaethol a lleol
K8  y prosesau, y gweithdrefnau a'r terfynau amser ar gyfer gwneud ceisiadau am fudd-daliadau
K9  y cynlluniau lles ar lefel leol lle mae modd cael gafael ar gymorth ac incwm ychwanegol
K10  pryd y dylid cyfeirio cwsmeriaid at gynghorwyr arbenigol
K11  y weithdrefn ar gyfer cyfeirio cwsmeriaid at gynghorwyr mewnol
K12  at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K13  sut i glywed am y newidiadau diweddaraf yn y ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae hyn yn effeithio ar gyngor
K14  gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi gwybodaeth
K15  gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Asset Skills

URN gwreiddiol

WA

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid, Cynghorwyr dyled/arian, gweithwyr llinell gymorth, cynghorwyr tai

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cwsmeriaid; cymorth; cofnodi; cynghori; gwybodaeth; ceisiadau am fudd-daliadau lles; cynlluniau lles lleol; uchafu incwm; apeliadau; budd-daliadau; grantiau; gostyngiadau