Gweithio'n effeithiol ym maes gweinyddu trethi lleol, budd-daliadau, grantiau a chynlluniau gostyngiad neu ryddhad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r gallu craidd y mae ei angen ar bob unigolyn sy'n gweithio ym maes gweinyddu trethi lleol, budd-daliadau, grantiau a chynlluniau gostyngiad neu ryddhad eraill, beth bynnag fo eu rôl neu swyddogaeth. Mae'n cynnwys deall y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol, deall yr amgylchedd lleol perthnasol a gweithio yn unol â gofynion sefydliadol i sicrhau gweithio effeithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 storio ffeiliau a dogfennau yn unol â gweithdrefnau a gofynion sefydliadol
P2 canfod ac adalw gwybodaeth yn system gadw cofnodion eich sefydliad fel sy'n ofynnol i gyflawni eich rôl
P3 cysylltu â staff, adrannau, swyddfeydd neu asiantaethau eraill i gael gafael ar wybodaeth fel y bo'n ofynnol
P4 dadansoddi ac asesu gwybodaeth i weld a yw'n gywir ac yn gyflawn
P5 rhoi gwybodaeth gywir i staff, adrannau, swyddfeydd neu asiantaethau eraill yn ôl y gofyn
P6 cyhoeddi ffurflenni perthnasol i ymgeiswyr fel sy'n ofynnol, yn unol â threfniadau gweithredu lleol
P7 cadarnhau bod yr holl ffurflenni a dogfennau a dderbynnir yn gywir ac yn gyflawn, ac olrhain unrhyw wybodaeth sydd ar goll, lle bo'n briodol
P8 olrhain, lle bo'n briodol, unrhyw ffurflenni nad ydynt wedi eu derbyn erbyn y dyddiad dyledus a chyhoeddi nodiadau atgoffa fel y bo'n ofynnol
P9 prosesu'r holl wybodaeth yn unol â darpariaethau'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Y Fframwaith Statudol
*
K1 y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol a'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol
K2 y gyfraith achosion berthnasol, beirniadaethau, rheoliadau ac arweiniad sy'n ymwneud â threthi lleol a/neu fudd-daliadau, grantiau a chynlluniau gostyngiad neu ryddhad
K3 y ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol
K4 y ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth berthnasol
Yr Amgylchedd Lleol
K5 y gwahaniaethau, i bwrpasau trethi, rhwng eiddo domestig ac annomestig
K6 y gwahanol fathau o drethi ar eiddo
K7 y gwahanol fathau o geisiadau ac ymgeiswyr ar gyfer grantiau, budd-daliadau a gostyngiadau
K8 y berthynas rhwng y systemau cenedlaethol a'r systemau lleol ar gyfer budd-daliadau
K9 yr adrannau neu'r swyddfeydd cysylltiedig perthnasol, a'u rolau
K10 gofynion asiantaethau allanol o ran gwybodaeth
Y Sefydliad
K11 gofynion a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cael a chyfnewid gwybodaeth
K12 ffynonellau gwybodaeth a ganiateir
K13 gweithdrefnau ar gyfer dilysu gwybodaeth
K14 dulliau o gofnodi ac adalw data a phwysigrwydd cadw cofnodion cywir
K15 yr angen am gyflymder a chywirdeb wrth gofnodi gwybodaeth
K16 gweithdrefnau ar gyfer sicrhau diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth
K17 yr amseriadau ar gyfer cyflwyno adroddiadau a diweddaru cofnodion
K18 polisïau'r awdurdod mewn perthynas â'i oblygiadau i'r llywodraeth ac i drethdalwyr
K19 yr egwyddorion sy'n tanategu hawl i fudd-daliadau a'u cyfrifiad a'u taliad
K20 gofynion o ran archwiliad mewnol ac allanol