Adfer a gorfodi symiau sy'n orddyledus

URN: ASTLT4
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Asset Skills
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2013

Trosolwg

Ystyr adfer a gorfodi symiau sy'n orddyledus yw ymdrin â thaliadau treth sy'n ddyledus i'r awdurdod ond sy'n hwyr neu a fethwyd. Mae'n cynnwys monitro ac olrhain taliadau hwyr neu daliadau a fethwyd, ystyried a chytuno i geisiadau am drefniadau talu arbennig ac adfer arian sy'n ddyledus i'r awdurdod.

Yn y safon hon, mae'r term 'trethi' yn cyfeirio at y dreth gyngor, ardrethi domestig yng Ngogledd Iwerddon ac ardrethi annomestig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  cyfeirio taliadau hwyr at yr unigolyn priodol lle maent yn codi o amgylchiadau sy'n ymwneud â chymhwysedd i gael budd-daliadau neu ostyngiadau
P2  hyrwyddo'n rhagweithiol unrhyw ddisgowntiau, gostyngiadau neu eithriadau sydd ar gael, lle bo'n briodol
P3  prosesu pob cais am drefniadau talu arbennig yn unol â'r gofynion statudol a lleol perthnasol, hysbysu'r trethdalwr am y canlyniad, a chofnodi'r trefniant yn y cyfrif
P4  cyflwyno ceisiadau am wybodaeth ariannol neu arall mewn da bryd
P5  llunio a/neu gael gafael ar restr o ddiffygdalwyr a rhoi unrhyw ddogfennau ategol perthnasol at ei gilydd
P6  dewis a chymryd y camau adfer mwyaf priodol lle'r ydych wedi cael yr awdurdod i wneud hynny, yn unol â'r gweithdrefnau cenedlaethol neu leol perthnasol
P7  llunio a chyflwyno dogfennau'n gywir, yn brydlon ac mewn fformat sy'n ddefnyddiol i'r derbynwyr, lle mae'r weithdrefn adfer yn rhan o'ch pwer dewisol eich hun
P8  cyfeirio materion yn brydlon at yr unigolyn neu'r sefydliad priodol, lle mae'r weithdrefn adfer y tu allan i'ch pwer dewisol eich hun
P9  cael gafael ar wybodaeth, lle bo'n angenrheidiol, gan asiantaethau allanol perthnasol, i helpu gyda chamau adfer
P10  gweithredu'n brydlon y gweithdrefnau priodol ar gyfer dileu'r ddyled unwaith y byddwch wedi cael caniatâd i wneud hynny


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Y Fframwaith Statudol
*

K1  y gofynion statudol a lleol a'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno hysbysiadau dilynol neu hysbysiadau atgoffa
K2  y gweithdrefnau, y rheoliadau a'r gofynion o ran tystiolaeth sy'n ymwneud â diffygdalwyr a chamau adfer yn yr ardal ddaearyddol lle rydych yn gweithio

Yr Amgylchedd Trethi

K3  yr amgylchiadau a allai beri bod taliadau'n hwyr neu'n cael eu methu
K4  y gwahanol fathau o ddisgowntiau, gostyngiadau ac eithriadau
K5  Y mathau o hysbysiadau dilynol a hysbysiadau atgoffa a'r amseriadau sy'n ymwneud â nhw
K6  opsiynau talu a threfniadau talu arbennig
K7  y dystiolaeth sy'n ofynnol i gefnogi ceisiadau am drefniadau talu arbennig
K8  polisïau ac amseriadau gorfodi lleol, a'u heffaith ar drefniadau talu
K9  y gwahanol ddulliau adfer a'u rhinweddau ariannol a chymesurol perthnasol
K10  yr amddiffyniadau sy'n ddilys yn erbyn gorchymyn atebolrwydd

Y Sefydliad

K11  yr amgylchiadau lle gallai fod yn briodol cymryd camau i adfer yr arian
K12  at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K13  gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Bartneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

LT4

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid, Cyfrifyddu a chyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu refeniw lleol; cynnal a chadw cofnodion o eiddo; pennu atebolrwydd a'r symiau sy'n ddyledus; gweithredu gweithdrefnau ar gyfer bilio a chasglu taliadau; adfer a gorfodi symiau sy'n orddyledus