Gweithredu gweithdrefnau ar gyfer bilio a chasglu taliadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â bilio a chasglu taliadau trethi sy'n ddyledus i'r awdurdod. Mae'n cynnwys pennu i ble y dylid anfon y bil, cyflwyno biliau (hysbysiadau galw am dalu) a phrosesu dulliau talu.
Yn y safon hon, mae'r term 'trethi' yn cyfeirio at y dreth gyngor, ardrethi domestig yng Ngogledd Iwerddon ac ardrethi annomestig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cadarnhau cyfeiriad bilio'r parti atebol
P2 gweithredu gweithdrefnau olrhain lle bo'n angenrheidiol, a helpu yn y broses olrhain os yw'n ofynnol
P3 cyflwyno hysbysiad galw am dalu, gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, ynghyd â dogfennau perthnasol lle bo'n angenrheidiol
P4 cyflwyno hysbysiadau galw am dalu diwygiedig lle bo'n angenrheidiol
P5 pennu dulliau talu ac amlder y taliadau, yn unol â gweithdrefnau statudol a lleol perthnasol
P6 prosesu ceisiadau neu hysbysiadau am newidiadau i'r dulliau talu
P7 rhoi gwybod i bartïon atebol am unrhyw hawliau i apelio sydd ganddynt o bosib
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Y Fframwaith Statudol
*
K1 pwrpas hysbysiadau galw am dalu a'u gofynion statudol
K2 yr amseriadau ar gyfer cyflwyno hysbysiadau galw am dalu
K3 hawliau partïon atebol i apelio yn erbyn hysbysiad galw am dalu
*Yr Amgylchedd Trethi
*
K4 dulliau o gadarnhau cyfeiriad bilio partïon atebol
K5 dulliau o olrhain partïon atebol a'r swyddfeydd neu'r cyrff perthnasol
K6 yr elfennau ar gyfer pennu maint y rhandaliadau a pha mor aml y cânt eu talu
K7 yr amgylchiadau lle gallai dulliau talu newid
Y Sefydliad
K8 y gwahanol opsiynau talu/casglu sydd ar gael, pa mor effeithiol ydynt a'u teilyngdodau perthnasol
K9 y gweithdrefnau ar gyfer casglu taliadau
K10 at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K11 gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol