Pennu atebolrwydd a'r symiau sy'n ddyledus

URN: ASTLT2
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Asset Skills
Cymeradwy ar: 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu pwy sy'n atebol am dalu trethi lleol a'r swm y mae angen iddynt ei dalu. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae'r swyddogaeth yma'n ymwneud â threthi eiddo yn unig, ond yn yr Alban mae hefyd yn cynnwys pennu atebolrwydd i dalu am gostau dwr a charthffosiaeth. Mae'n cynnwys adnabod y parti neu'r partïon sy'n atebol am dalu trethi ar eiddo, creu, cynnal a chadw cyfrifon i drethdalwyr unigol, pennu faint y dylai pob trethdalwr ei dalu; defnyddio pwerau dewisol; asesu ac adolygu'n rheolaidd hawliau i ostyngiadau.

Yn y safon hon, mae'r term ‘trethi eiddo’ yn cyfeirio at y dreth gyngor ac ardrethi annomestig yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ac ardrethi domestig ac annomestig yng Ngogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1  adnabod pwy yw'r parti/partïon atebol a manylion eu cyfeiriad bilio
P2  creu cyfrif yn enw'r holl barti/partïon atebol
P3  cyfrifo'r swm y mae pob un o'r partïon yn atebol am ei dalu
P4  pennu a dyfarnu disgowntiau, gostyngiadau neu eithriadau, lle bo'n briodol
P5  defnyddio gweithdrefnau ar gyfer gostyngiadau dewisol yn y dreth gyngor neu ardrethi domestig
P6  hyrwyddo'n rhagweithiol unrhyw ddisgowntiau, gostyngiadau ac eithriadau sydd ar gael, a chyfeirio cwsmeriaid at wybodaeth berthnasol am fudd-daliadau, lle bo'n briodol
P7  adolygu hawliau i ddisgowntiau, gostyngiadau neu eithriadau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
P8  terfynu'r hawl i unrhyw ddisgownt, gostyngiad neu eithriad, lle bo'n angenrheidiol, a rhoi gwybod am y rhesymau i'r trethdalwr
P9  gwirio ac ad-dalu gordaliadau, gan sicrhau bod llog yn cael ei gyfrifo a'i dalu lle bo'n berthnasol
P10  cau hen gyfrifon yn gywir pan fo'n ofynnol a phrosesu unrhyw weddillion neu ad-daliadau sy'n ddyledus


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Y Fframwaith Statudol
*

K1  cysyniad atebolrwydd llwyr, cyd-atebolrwydd ac atebolrwydd unigol

*Yr Amgylchedd Trethi
*

K2  sut i bennu atebolrwydd am dalu trethi lleol, a dyddiadau ac amseriadau perthnasol
K3  dulliau o adnabod a chadarnhau pwy yw'r parti atebol a beth yw eu cyfeiriad bilio
K4  y gwahaniaethau, i bwrpasau trethi, rhwng eiddo a feddiennir, eiddo a feddiennir yn rhannol ac eiddo gwag
K5  yr egwyddorion sy'n tanategu'r gwaith o gyfrifo rhwymedigaethau treth a gostyngiadau
K6  y gwahanol fathau o ddisgowntiau, gostyngiadau ac eithriadau sy'n ymwneud â threthi lleol, a'r rheolau a'r rheoliadau sy'n llywio hawliau iddynt
K7  yr wybodaeth y mae gofyn i'r trethdalwr ei rhoi wrth wneud cais am ddisgowntiau, gostyngiadau neu eithriadau
K8  yr egwyddorion sy'n tanategu'r gwaith o gyfrifo gordaliadau, llog ar ordaliadau, ac ad-daliadau

Y Sefydliad

K9  y gofynion a'r prosesau ar gyfer trefnu archwiliadau eiddo, lle mae gwasanaeth o'r fath yn bodoli
K10  gweithdrefnau ar gyfer cyfrifo'r symiau sy'n ddyledus
K11  gweithdrefnau ac amserlenni sefydliadol ar gyfer adolygu atebolrwydd a hawl i ostyngiadau
K12  sut mae'r pwerau dewisol sydd ar gael i awdurdodau lleol yn effeithio ar atebolrwydd
K13  pwysigrwydd cydbwyso angen yr awdurdod i uchafu refeniw gyda chanfod a gweithredu gostyngiadau cymwys ar ran trethdalwyr mewn ffordd ragweithiol.
K14  at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K15  gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Bartneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

LT2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid, Cyfrifyddu a chyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu refeniw lleol; cynnal a chadw cofnodion o eiddo; pennu atebolrwydd a'r symiau sy'n ddyledus; gweithredu gweithdrefnau ar gyfer bilio a chasglu taliadau; adfer a gorfodi symiau sy'n orddyledus; gwerthuso hawliadau am fudd-daliadau; cyfrifo a thal