Cynnal a chadw cofnodion o eiddo i bwrpasau trethi lleol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw cofnodion yr awdurdod yn y gronfa ddata eiddo trethi lleol ar gyfer y dreth gyngor, ardrethi domestig yng Ngogledd Iwerddon ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn cynnwys: creu cofnodion o eiddo newydd; addasu cofnodion pan fydd yr eiddo'n newid; cynnal perthynas effeithiol gyda swyddfeydd perthnasol eraill, yn arbennig gyda'r Swyddfa Brisio a'r Aseswyr. Yn ei hanfod, mae'r swyddogaeth hon yn ymwneud â derbyn gwybodaeth, ei phrosesu, ei phasio allan i swyddfeydd eraill, ac yna ddiweddaru cofnodion fel y bo'n angenrheidiol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 sicrhau bod gennych y cyfeiriad cywir, y ffurfwedd a'r defnydd cywir ar gyfer pob eiddo newydd
P2 pennu dyddiadau cwblhau ar gyfer eiddo newydd, lle bo'n ofynnol
P3 ychwanegu eiddo newydd ar y system cofnodion
P4 dadansoddi ac asesu'r holl wybodaeth a dderbynnir gan ffynonellau mewnol ac allanol i adnabod newidiadau i eiddo
P5 cysylltu â'r Swyddfa Brisio (Cymru a Lloegr), yr Aseswr (Yr Alban) a/neu swyddfeydd, adrannau neu asiantaethau eraill fel y bo'n ofynnol i gynnal cywirdeb yr wybodaeth a datrys anghysonderau
P6 trefnu i archwilio adeiladau newydd, neu adeiladau a addaswyd, os yw hynny'n ofynnol
P7 addasu cofnodion eiddo yn ôl y gofyn, ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Yr Amgylchedd Trethi
**K1 y gwahaniaethau, i bwrpasau trethi lleol, rhwng adeiladau newydd, adeiladau a addaswyd ac adeiladau presennol
K2 rôl y Swyddfa Brisio (Cymru a Lloegr) neu'r Aseswr (Yr Alban)
K3 y rheoliadau sy'n ymwneud â gweinyddu a diwygio rhestrau prisio a threthu lleol
K4 ffurf, swyddogaeth a chyflwyno hysbysiadau cwblhau
K5 y rheoliadau sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd prisio ac apeliadau
K6 presenoldeb, os oes rhai, ac effaith newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac unrhyw drefniadau trosiannol lle bo'n berthnasol
K7 egwyddorion sut i brisio eiddo
K8 y berthynas rhwng yr awdurdod bilio a'r Swyddfa Brisio (Cymru a Lloegr) neu'r Aseswr (Yr Alban)
Y Sefydliad
K9 y prosesau ar gyfer trefnu archwiliadau eiddo, lle bo'n ofynnol
K10 gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chadw cofnodion o eiddo
K11 gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol