Monitro hawl parhaus i fudd-daliadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro hawl parhaus ymgeiswyr i dderbyn budd-daliadau a chadw cofnodion yn gyfoes. Mae'n cynnwys diweddaru cofnodion pan fydd yr amgylchiadau neu'r ddeddfwriaeth yn newid, adnabod newidiadau posib yn y dyfodol yn amgylchiadau a hawliau ymgeiswyr, ail-gyfrifo, atal neu derfynu budd-daliadau lle bo'n briodol, adfer gordaliadau lle bo'n angenrheidiol, a chwilio am geisiadau a allai fod yn dwyllodrus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 monitro cofnodion yn barhaus a'u croeswirio yn erbyn gwybodaeth arall i weld a oes unrhyw newidiadau posibl i'r hawl i fudd-daliadau
P2 gweithredu newidiadau mewn amgylchiadau sy'n ymwneud â'r hawliad yn unol â'r gweithdrefnau perthnasol
P3 ail-gyfrifo hawliau ar sail unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir neu a ganfyddir
P4 diwygio, atal neu derfynu taliadau lle bo'n briodol
P5 rhoi gwybod i'r unigolyn neu'r adran berthnasol am unrhyw ordaliadau sydd â goblygiadau i gymorthdaliadau'r awdurdod gan y llywodraeth ganolog
P6 penderfynu a oes modd adfer unrhyw ordaliadau ac, os felly, defnyddio'r dull adfer perthnasol
P7 rhoi gwybod i'r ymgeiswyr am y dull o adfer a faint a adferwyd lle cynigir y dylid cymryd camau penodol i adfer gordaliadau
P8 cymryd camau priodol i sicrhau caniatâd i ddileu'r ddyled yn unol â pholisi'r awdurdod
P9 cyfeirio cofnod yr ymgeisydd at yr unigolyn priodol lle mae anghysonderau neu nodweddion anarferol a allai awgrymu hawliad twyllodrus
P10 ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth berthnasol wrth gofnodi data yn y system
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Y Fframwaith Statudol
**K1 sut i gyfrifo cymhorthdal budd-daliadau
**Yr Amgylchedd Budd-daliadau
**K2 gweithdrefnau ar gyfer casglu a monitro gwybodaeth yn ymwneud â cheisiadau
K3 sut i gofnodi gwybodaeth yn ymwneud â cheisiadau a chynnal a chadw cofnodion yr ymgeiswyr
K4 gwasanaethau a sefydliadau paru data, ac egwyddorion paru data
K5 yr amgylchiadau lle gellir atal neu derfynu taliadau a'r rheolau sy'n llywio'r camau gweithredu hyn
K6 rhesymau pam y gallai gordaliadau ddigwydd a sut i'w hadfer
K7 yr amgylchiadau lle byddwch o bosib angen ail-gyfrifo budd-daliadau neu ail-ddosbarthu gordaliadau
K8 ar ba sail y credir bod gordaliad yn adferadwy neu'n anadferadwy a'r unigolion y gellir sicrhau adferiad ganddynt
K9 ffurf a chynnwys hysbysiadau am ordaliadau
K10 gweithdrefnau ar gyfer dileu gordaliadau a'u cysoniad gyda chofnodion eraill
K11 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o dwyll a'r angen am fonitro ceisiadau'n barhaus
K12 effaith newidiadau yn y ddeddfwriaeth berthnasol, a'u dyddiadau effeithiol, ar hawl i fudd-daliadau ac ar gofnodion yr ymgeiswyr
**Y Sefydliad
**K13 at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K14 gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol
K15 y gofynion lleol ar gyfer monitro ac adolygu hawliadau yn barhaus